Neidio i'r cynnwys

Fideos Beiblaidd—Dysgeidiaethau Sylfaenol

Mae’r gwersi fideo byrion hyn yn ateb cwestiynau sylfaenol am y Beibl, fel: Pam creodd Duw y ddaear? Beth yw cyflwr y meirw? Pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint?

A Gafodd y Bydysawd ei Greu?

Mae’r hanes y creu yn y Beibl yn aml yn cael ei gamddeall neu hyd yn oed ei ddiystyru fel chwedl. Ydy’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud yn rhesymol?

Ydy Duw yn Bodoli?

Oes ’na unrhyw dystiolaeth resymegol dros gredu bod Duw yn bodoli?

Oes Gan Dduw Enw?

Mae gan Dduw nifer o deitlau, gan gynnwys Hollalluog, Creawdwr, ac Arglwydd. Ond, mae enw personol Duw yn y Beibl dros 7,000 o weithiau.

Ydy Hi’n Bosib Bod yn Ffrind i Dduw?

Ers canrifoedd, mae pobl ym mhob man wedi teimlo’r angen i adnabod eu Creawdwr. Mae’r Beibl yn gallu ein helpu ni i ddod yn ffrind i Dduw. Mae hynny’n dechrau drwy ddysgu beth yw enw Duw.

Pwy Yw Awdur y Beibl?

Os mai dynion a ysgrifennodd testun y Beibl, ydy hi’n iawn felly i’w alw’n air Duw? Meddyliau pwy sydd yn y Beibl?

Sut Gallwn Ni Fod yn Sicr Fod y Beibl yn Wir?

Os mai Duw yw awdur y Beibl, fe ddylai fod yn llyfr hollol unigryw.

Pam Creodd Duw y Ddaear?

Mae ein byd yn llawn harddwch. Mae wedi ei osod ar y pellter perffaith o’r haul, mae ongl ei gogwydd yn berffaith, ac mae’n cylchdroi ar y cyflymder perffaith. Pam rhoddodd Duw gymaint o ymdrech i greu’r ddaear?

Beth Yw Cyflwr y Meirw?

Mae’r Beibl yn addo amser pan fydd llawer o bobl yn cael eu hatgyfodi o farw’n fyw, fel cafodd Lasarus.

A Ydy Uffern yn Bodoli?

Oherwydd mai “cariad ydy Duw,” mae’r Beibl yn dweud na fyddai Duw byth yn cosbi pobl am gamgymeriadau’r gorffennol.

Ai Iesu Grist Ydy Duw?

Ydy Iesu Grist a’r Duw Hollalluog yn un? Neu ydyn nhw’n ddau berson gwahanol?

Pam Roedd Rhaid i Iesu Farw?

Mae’n debyg eich bod wedi clywed bod Iesu wedi marw dros ein pechodau. Ond, sut gall un aberth fod o les i filiynau o bobl?

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Trwy gydol ei weinidogaeth, dysgodd Iesu am Deyrnas Dduw yn fwy nag unrhyw bwnc arall. Ers canrifoedd, mae ei ddilynwyr wedi bod yn gweddïo i’r Deyrnas honno ddod.

Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli ym 1914

Dros 2,600 o flynyddoedd yn ôl, gwnaeth Duw ysbrydoli brenin pwerus i gael breuddwyd broffwydol sy’n cael ei chyflawni nawr.

Mae’r Byd Wedi Newid Ers 1914

Mae cyflwr y byd ac agweddau cyffredin ers 1914 yn dangos bod proffwydoliaethau’r Beibl am y “cyfnod olaf” yn cael eu cyflawni.

Trychinebau Naturiol—Ai Duw Sydd ar Fai?

Dau ddioddefwr o drychinebau naturiol yn esbonio beth wnaethon nhw ei ddysgu o’r Beibl.

Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

Mae gan y Beibl ateb calonogol sy’n cysuro.

Ydy Duw yn Derbyn Addoliad o Bob Math?

Mae llawer yn credu nad oes ots pa grefydd rydych chi’n ei dewis.

Ydy Duw’n Cymeradwyo Defnyddio Eilunod Wrth Addoli?

A allan nhw ein helpu i glosio at Dduw anweledig?

Ydy Duw yn Gwrando ar Bob Gweddi?

Beth os yw gweddi rhywun yn hunanol? Beth os yw gŵr yn cam-drin ei wraig ac yn hwyrach yn gofyn am fendith Duw?

Ydy Pornograffi yn Bechod yng Ngolwg Duw?

Ydy’r gair “pornograffi” yn y Beibl hyd yn oed? Sut gallwn ni wybod sut mae Duw yn teimlo am bornograffi?