Neidio i'r cynnwys

Ai’r Diafol Yw Achos Ein Holl Ddioddefaint?

Ai’r Diafol Yw Achos Ein Holl Ddioddefaint?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn dangos bod Satan y Diafol yn berson go iawn, fel pen-bandit pwerus, yn gwneud yn siŵr bod ei ddymuniad yn cael ei wireddu drwy ‘ryfeddodau ffug’ a ‘thwyll.’ Yn ôl y Beibl, “mae Satan ei hun yn cymryd arno ei fod yn angel y goleuni!” (2 Thesaloniaid 2:9, 10; 2 Corinthiaid 11:14) Gallwn weld bodolaeth y Diafol yn yr holl ddrwg mae ef yn ei achosi.

 Er dweud hynny, dydy’r Diafol ddim yn gyfrifol am bob dioddefaint. Pam ddim? Creodd Duw ddynion â’r gallu i ddewis rhwng gwneud beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. (Josua 24:15) Pan wnawn ni benderfyniadau gwael, rydyn ni’n medi canlyniadau drwg.—Galatiaid 6:7, 8.