Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Fod yn Hoyw?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Fod yn Hoyw?

Ateb y Beibl

 Pan greodd Duw fodau dynol, ei fwriad oedd i’r berthynas rywiol fod rhwng gŵr a gwraig mewn priodas. (Genesis 1:​27, 28; Lefiticus 18:22; Diarhebion 5:​18, 19) Mae’r Beibl yn condemnio gweithgareddau rhywiol, boed nhw’n gyfunrhywiol neu’n wahanrywiol, sydd heb fod rhwng gwryw a menyw mewn priodas. (1 Corinthiaid 6:​18) Mae hyn yn cynnwys cyfathrach rywiol, mastyrbio rhywun arall, rhyw geneuol, a rhyw rhefrol.

 Er bod y Beibl yn condemnio gweithredoedd cyfunrhywiol, nid yw’n cymeradwyo homoffobia na chasineb tuag at bobl hoyw. I’r gwrthwyneb, dylai Cristnogion “ddangos parch at bawb.”​—1 Pedr 2:​17.

 A yw rhai yn cael eu geni’n hoyw?

Nid yw’r Beibl yn gwneud sylwadau uniongyrchol ar fioleg dymuniadau hoyw, ond mae’n cydnabod ein bod ni’n cael ein geni gyda’r duedd i fynd yn groes i orchmynion Duw. (Rhufeiniaid 7:​21-​25) Yn hytrach na chanolbwyntio ar y rhesymau dros deimladau hoyw, mae’r Beibl yn glir wrth wahardd gweithredoedd cyfunrhywiol.

 Sut mae plesio Duw er gwaethaf teimladau hoyw?

Mae’r Beibl yn dweud: “Lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, . . . a phob tuedd i wneud drwg.” (Colosiaid 3:5) Er mwyn lladd chwantau drwg sy’n arwain at weithredoedd drwg, mae angen rheoli eich meddyliau. Os ydych chi’n llenwi eich meddwl yn rheolaidd â meddyliau glân a llesol, bydd hi’n haws gyrru dymuniadau anghywir o’ch calon. (Philipiaid 4:8; Iago 1:​14, 15) Gall hyn fod yn anodd i ddechrau, ond yn aml fe ddaw yn haws gydag amser. Mae Duw yn addo eich helpu i “feithrin ffordd newydd o feddwl.”​—Effesiaid 4:​22-​24.

 Mae’r un frwydr yn wynebu miliynau o bobl wahanrywiol sy’n dymuno dilyn safonau’r Beibl. Er enghraifft, mae pobl sengl sydd heb gyfle i briodi, a phobl sy’n briod â phartneriaid sydd ddim yn gallu ymateb yn rhywiol, yn dewis rheoli eu chwantau rhywiol ni waeth beth yw’r temtasiwn. Maen nhw’n llwyddo i gael bywydau hapus, ac mae’r rhai sydd â dymuniadau cyfunrhywiol yn gallu gwneud yr un fath os ydyn nhw wir eisiau plesio Duw.​—Deuteronomium 30:19.