Beth Alla’ i Weddïo Amdano?
Ateb y Beibl
Cewch weddïo am unrhyw beth sydd yn cyd-fynd â gofynion Duw fel dywed y Beibl, “Mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad.” (1 Ioan 5:14) Ydw i’n cael trafod fy mhroblemau personol â Duw? Ydych. Mae’r Beibl yn dweud: “Tywalltwch beth sydd ar eich calon o flaen [Duw].”—Salm 62:8.
Pethau i weddïo amdanyn nhw
Ffydd yn Nuw.—Luc 17:5.
Ysbryd glân, neu rym gweithredol Duw, i’ch helpu i wneud yr hyn sy’n iawn.—Luc 11:13.
Y nerth i ddelio gyda phroblemau bywyd a gwrthsefyll temtasiynau.—Philipiaid 4:13.
Heddwch a thawelwch mewnol.—Philipiaid 4:6,7.
Doethineb i wneud penderfyniadau call.—Iago 1:5.
Cymorth gydag anghenion pob dydd.—Mathew 6:11.
Maddeuant pechodau.—Mathew 6:12.