Neidio i'r cynnwys

Beth Fydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

Beth Fydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

Ateb y Beibl

 Bydd Teyrnas Dduw yn cymryd lle pob llywodraeth ddynol a rheoli dros y byd cyfan. (Daniel 2:44; Datguddiad 16:14) Ar ôl i hynny ddigwydd, bydd Teyrnas Dduw yn . . .

  •   Cael gwared ar bobl ddrwg sy’n ein niweidio gyda’u hunanoldeb. “Bydd pobl ddrwg yn cael eu gyrru i ffwrdd, a’r rhai sy’n twyllo yn cael eu rhwygo o’r tir.”—Diarhebion 2:22.

  •   Dod â diwedd i bob rhyfel. “Mae’n dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.”—Salm 46:9.

  •   Dod â llwyddiant a diogelwch i’r byd. “Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.”—Micha 4:4.

  •   Troi’r ddaear yn baradwys. “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo.”—Eseia 35:1.

  •   Sicrhau bod pawb yn cael hwyl wrth wneud gwaith ystyrlon. “Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo. Fyddan nhw ddim yn gweithio’n galed i ddim byd.”—Eseia 65:21-23.

  •   Dileu salwch. “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”—Eseia 33:24.

  •   Rhyddhau ni o effeithiau henaint. “Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc; bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!”—Job 33:25.

  •   Dod â’r meirw yn ôl yn fyw. “Mae’r amser yn dod pan fydd pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan.”—Ioan 5:28, 29.