Neidio i'r cynnwys

Beth Yw’r Atgyfodiad?

Beth Yw’r Atgyfodiad?

Ateb y Beibl

 Yn y Beibl, mae’r gair sy’n cael ei gyfieithu “atgyfodiad” yn dod o’r gair Groeg a·naʹsta·sis, sy’n golygu “codi” neu “sefyll eto.” Pan mae person yn cael ei atgyfodi o farwolaeth, mae’n dod yn ôl yn fyw fel y person yr oedd o’r blaen.—1 Corinthiaid 15:12, 13.

 Er nad ydy’r gair “atgyfodiad” yn yr ysgrythurau Hebraeg, a elwir yn aml yr Hen Destament, mae’r ddysgeidiaeth ar gael yno. Drwy’r proffwyd Hosea er enghraifft, gwnaeth Duw addo y bydd yn achub o’r bedd a rhyddhau o afael marwolaeth.—Hosea 13:14; Job 14:13-15; Eseia 26:19; Daniel 12:2, 13.

 I ba le bydd pobl yn cael eu hatgyfodi? Mae rhai pobl yn cael eu hatgyfodi i’r nef i reoli fel brenhinoedd gyda Christ. (2 Corinthiaid 5:1; Datguddiad 5:9, 10) Mae’r Beibl yn galw hwn yr “atgyfodiad cyntaf,” sy’n awgrymu bod un arall am ddilyn. (Datguddiad 20:6) Bydd yr atgyfodiad sydd i ddilyn yn digwydd ar y ddaear, a dyna ydy gobaith y rhan fwyaf o bobl a fydd yn cael eu hatgyfodi.—Salm 37:29.

 Sut mae pobl yn cael eu hatgyfodi? Mae Duw wedi rhoi’r gallu i Iesu atgyfodi’r meirw. (Ioan 11:25) Bydd Iesu yn dod â ‘phawb sy’n eu beddau’ yn ôl yn fyw, pob un gyda’i bersonoliaeth ac atgofion unigryw. (Ioan 5:28, 29) Bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi i’r nef yn derbyn corff ysbrydol tra bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi ar y ddaear yn derbyn corff perffaith ac iach.—Eseia 33:24; 35:5, 6; 1 Corinthiaid 15:42-44, 50.

 Pwy fydd yn cael eu hatgyfodi? Mae’r Beibl yn dweud bod “Duw yn mynd i ddod â phobl sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw.” (Actau 24:15) Mae’r cyfiawn yn cynnwys pobl ffyddlon fel Noa, Sara, ac Abraham. (Genesis 6:9; Hebreaid 11:11; Iago 2:21) Mae’r anghyfiawn yn cynnwys y rhai doedd ddim yn cyrraedd safonau Duw ond doedd ddim wedi cael y cyfle i’w dysgu na’u dilyn.

 Sut bynnag, mae rhai pobl mor ddrwg fyddan nhw byth yn newid. Felly, pan maen nhw’n marw, fyddan nhw ddim yn cael eu hatgyfodi.—Mathew 23:33; Hebreaid 10:26, 27.

 Pryd bydd yr atgyfodiad yn digwydd? Rhagfynegodd y Beibl bydd yr atgyfodiad i’r nef yn digwydd yn ystod presenoldeb Crist, a ddechreuodd ym 1914. (1 Corinthiaid 15:21-23) Bydd yr atgyfodiad ar y ddaear yn digwydd yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Iesu Grist, pan fydd y ddaear yn cael ei throi’n baradwys.—Luc 23:43; Datguddiad 20:6, 12, 13.

 Pam mae’n rhesymol i gredu yn yr atgyfodiad? Mae’r Beibl yn cynnwys hanes naw atgyfodiad, a phob un wedi ei gadarnhau gan lygad-dystion. (1 Brenhinoedd 17:17-24; 2 Brenhinoedd 4:32-37; 13:20, 21; Luc 7:11-17; 8:40-56; Ioan 11:38-44; Actau 9:36-42; 20:7-12; 1 Corinthiaid 15:3-6) Mae atgyfodiad Lasarus gan Iesu yn werth ei nodi, gan fod Lasarus wedi marw ers pedwar diwrnod pan wnaeth Iesu ei atgyfodi mewn ffordd wyrthiol o flaen tyrfa o bobl. (Ioan 11:39, 42) Doedd hyd yn oed y rhai a oedd yn gwrthwynebu Iesu ddim yn gallu gwadu’r ffaith, felly gwnaethon nhw gynllwynio i ladd Iesu a Lasarus.—Ioan 11:47, 53; 12:9-11.

 Mae’r Beibl yn dangos bod gan Dduw’r gallu a’r awydd i ddod â’r meirw yn ôl yn fyw. Mae Duw yn cofio popeth am bawb yn berffaith a bydd yn eu hatgyfodi drwy ei nerth hollalluog. (Job 37:23; Mathew 10:30; Luc 20:37, 38) Mae Duw yn gallu dod â phobl yn ôl yn fyw, ac mae eisiau gwneud hynny! Wrth ddisgrifio’r atgyfodiad sydd i ddod, mae’r Beibl yn dweud am Dduw: “Byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.”—Job 14:15.

Camsyniadau am yr atgyfodiad

 Myth: Mae’r atgyfodiad yn uno’r corff â’r enaid unwaith eto.

 Ffaith: Mae’r Beibl yn dysgu mai’r person cyfan yw’r enaid, nid rhyw ran sy’n goroesi marwolaeth. (Genesis 2:7, Beibl Cysegr-lân; Eseciel 18:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Dydy person sy’n cael ei atgyfodi ddim yn cael ei uno â’i enaid eto. Yn hytrach, mae’n cael ei ail greu fel enaid byw.

 Myth: Mae rhai pobl yn cael eu hatgyfodi ac yna eu dinistrio’n syth.

 Ffaith: Mae’r Beibl yn dweud “bydd y rhai sydd wedi gwneud drwg yn codi i gael eu barnu.” (Ioan 5:29) Ond, byddan nhw’n cael eu barnu ar sail beth maen nhw’n ei wneud, nid cyn, ond ar ôl iddyn nhw gael eu hatgyfodi. Dywedodd Iesu bydd “y rhai sy’n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy’n gwrando ar beth mae’n ei ddweud yn byw.” (Ioan 5:25) Bydd enwau’r rhai sy’n “gwrando ar” neu’n ufuddhau i’r pethau maen nhw’n eu dysgu ar ôl cael eu hatgyfodi yn cael eu cofnodi yn “llyfr y bywyd.”—Datguddiad 20:12, 13.

 Myth: Bydd person yn cael ei atgyfodi gydag union yr un corff a oedd ganddo cyn iddo farw.

 Ffaith: Ar ôl marwolaeth, mae’n debyg byddai corff person wedi torri i lawr a phydru.—Pregethwr 3:19, 20.