Neidio i'r cynnwys

Beth Yw’r Bwystfil â Saith Pen yn Datguddiad Pennod 13?

Beth Yw’r Bwystfil â Saith Pen yn Datguddiad Pennod 13?

Ateb y Beibl

 Mae’r bwystfil â saith pen y mae sôn amdano yn Datguddiad 13:1 yn cynrychioli’r system wleidyddol fyd-eang.

  •   Mae ganddo awdurdod, grym, a gorsedd, i gyd yn bethau sy’n nodweddu rhywbeth o natur wleidyddol.​—Datguddiad 13:2.

  •   Mae’n llywodraethu “dros bob llwyth, hil, iaith a chenedl.” Felly mae’n rhaid ei fod yn fwy na llywodraeth rhyw genedl unigol.​—Datguddiad 13:7.

  •   Mae’n cyfuno nodweddion y pedwar bwystfil a ddisgrifir yn y broffwydoliaeth yn Daniel 7:​2-8. Mae’n debyg i lewpard, ond mae traed arth, ceg llew, a deg corn ganddo. Ym mhroffwydoliaeth Daniel, mae’r bwystfilod yn cynrychioli brenhinoedd, neu deyrnasoedd gwleidyddol penodol, sy’n tyfu’n ymerodraethau y naill ar ôl y llall. (Daniel 7:​17, 23) Felly, mae’r bwystfil yn Datguddiad pennod 13 yn cynrychioli cyfundrefn wleidyddol a llawer rhan iddi.

  •   Mae’n “dod allan o’r môr,” hynny yw, o’r ddynolryw aflonydd sy’n ffurfio llywodraethau dynol.​—Datguddiad 13:1; Eseia 17:12, 13, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  •   Mae’r Beibl yn dweud bod rhif, neu enw, y bwystfil​—666​—yn “rhif rhywun dynol.” (Datguddiad 13:17, 18, BCND) Mae’r ymadrodd hwn yn dangos bod y bwystfil yn Datguddiad pennod 13 yn perthyn i’r byd dynol yn hytrach nag i fyd ysbrydol y cythreuliaid.

 Ychydig iawn o gytundeb sydd rhwng y cenhedloedd, ond maen nhw’n unfryd yn eu penderfyniad i ddal eu gafael ar eu hawdurdod yn hytrach nag ymostwng i Deyrnas Dduw. (Salm 2:2) Byddan nhw hefyd yn dod at ei gilydd i ymladd yn erbyn lluoedd Duw dan arweiniad Iesu Grist yn Armagedon, ond caiff y cenhedloedd eu dinistrio yn y rhyfel hwnnw.​—Datguddiad 16:14, 16; 19:19, 20.

‘Deg corn a saith pen’

 Yn y Beibl mae ystyr symbolaidd i rai rhifau. Er enghraifft, mae deg a saith yn cynrychioli cyfanrwydd. Er mwyn deall ystyr penodol ‘deg corn a saith pen’ y bwystfil yn Datguddiad 13, mae angen ystyried delw o’r bwystfil yn Datguddiad 17​—bwystfil lliw ysgarlad sydd â saith pen a deg corn. (Datguddiad 13:​1, 14, 15; 17:3) Mae’r Beibl yn dweud bod saith pen y bwystfil ysgarlad hwn yn golygu “saith brenin,” neu lywodraeth.​—Datguddiad 17:​9, 10.

 Yn yr un modd, mae saith pen y bwystfil yn Datguddiad 13:1 yn cynrychioli saith llywodraeth, sef, y grymoedd gwleidyddol sydd wedi cael lle blaenllaw yn hanes y byd ac sydd wedi gorthrymu pobl Dduw​—Yr Aifft, Asyria, Babilon, Medo-Persia, Gwlad Groeg, Rhufain, a Phrydain ac America. Os ydy’r deg corn yn cynrychioli holl lywodraethau’r byd, bach a mawr, yna mae’r coronau ar y cyrn hynny yn dangos bod pob cenedl yn llywodraethu ar yr un pryd â’r grym gwleidyddol mawr yr oes.