Neidio i'r cynnwys

EFELYCHU EU FFYDD | JOB

Fe Wnaeth Jehofa Leddfu ei Boen

Fe Wnaeth Jehofa Leddfu ei Boen

 O’r diwedd, daeth taw ar y siarad rhwng y dynion. Efallai’r unig sŵn i’w glywed oedd sibrwd yr awel gynnes o gyfeiriad anialwch Arabia. Wedi blino’n lân ar ôl yr holl ddadlau, nid oedd gan Job ragor i’w ddweud. Gallwn ei ddychmygu yn syllu’n ddig ar ei ymwelwyr, Eliffas, Bildad, a Soffar, bron yn eu herio i ddweud mwy. Ond edrych i ffwrdd a wnaethon nhw, yn osgoi ei lygaid, yn rhwystredig nad oedd eu dadlau clyfar, eu ‘geiriau gwyntog’ a’u sylwadau cas wedi llwyddo. (Job 16:3, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Roedd Job yn fwy penderfynol nag erioed o amddiffyn ei ffyddlondeb.

 Efallai bod Job yn teimlo mai ffyddlondeb oedd yr unig beth oedd ar ôl ganddo. Roedd wedi colli ei gyfoeth, ei blant, a’i iechyd, ynghyd â chefnogaeth a pharch ei ffrindiau a’i gymdogion. Roedd ei groen wedi troi’n ddu, yn llawn crachod, ac yn fyw o gynrhon. Roedd hyd yn oed ei anadl yn drewi. (Job 7:5, New World Translation, 19:17; 30:30) Ond rywsut, roedd sylwadau creulon y tri dyn wedi cynnau tân yn ei fol. Roedd yn benderfynol o brofi nad pechadur mohono. Roedd araith olaf Job wedi rhoi taw arnyn nhw a llif y geiriau atgas wedi pallu o’r diwedd. Ond dal i ddioddef oedd Job. Roedd taer angen help arno!

 Mae’n hawdd deall pam nad oedd Job yn meddwl yn glir. Roedd angen ei gynghori a’i gywiro. Ond hefyd roedd angen cysur arno, rhywbeth y dylai ei dri chyfaill fod wedi eu rhoi iddo. Ydych chi erioed wedi bod mewn sefyllfa lle roedd taer angen help a chysur arnoch chi? Ydych chi erioed wedi cael eich siomi gan bobl a oedd i fod yn ffrindiau ichi? Bydd dysgu am yr help a roddodd Jehofa i’w was Job, a sut ymatebodd Job, yn rhoi gobaith a help ymarferol ichi.

Cynghorwr Doeth a Charedig

 Syndod braidd yw’r hyn sy’n digwydd nesaf. Ymddengys fod rhywun arall wedi bod yn gwrando ar y ddadl rhwng Job a’r ymwelwyr. Elihw oedd ei enw, ond gan ei fod yn iau na’r lleill, roedd wedi cadw’n dawel. Ac nid oedd yn hapus o gwbl gyda’r hyn yr oedd wedi ei glywed.

 Roedd Elihw wedi ei siomi gan Job. Roedd yn drist o weld Job yn gadael i’r dynion eraill ei bryfocio nes ei fod yn mynnu “mai fe oedd yn iawn ac nid Duw.” Ar y llaw arall roedd Elihw yn cydymdeimlo â Job. Gallai weld ei boen, ei onestrwydd, a’i daer angen am gysur a chyngor caredig. Does dim rhyfedd i Elihw golli amynedd gyda’r tri “chysurwr.” Roedd wedi eu clywed yn ymosod ar Job, gan geisio tanseilio ei ffydd, ei urddas, a’i ffyddlondeb. Yn waeth byth, roedd eu dadlau gwyrdroëdig yn gwneud i Dduw ymddangos yn ddrwg. Roedd Elihw ar dân am gael dweud rhywbeth!—Job 32:2-4, 18.

 “Dyn ifanc dw i,” meddai, “a chi i gyd yn hen; felly dw i wedi bod yn cadw’n dawel ac yn rhy swil i ddweud be dw i’n feddwl.” Ond nawr roedd yn rhaid iddo siarad. Aeth yn ei flaen: “Nid dim ond pobl mewn oed sy’n ddoeth, does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy’n iawn.” (Job 32:6, 9) Siaradodd Elihw yn helaeth, yn profi bod hynny’n wir. Roedd ei agwedd at Job yn hollol wahanol i agwedd Eliffas, Bildad, a Soffar. Addawodd Elihw na fyddai’n bychanu Job nac yn ychwanegu at ei feichiau. Siaradodd yn barchus wrtho, yn defnyddio ei enw, ac yn cydnabod ei fod wedi cael ei drin yn ddirmygus. a Dywedodd yn garedig: “Felly Job, gwrando beth sydd gen i i’w ddweud.”—Job 33:1, 7; 34:7, BCND.

Siaradodd Elihw yn barchus wrth Job, yn defnyddio ei enw a’i drin yn garedig

 Siaradodd Elihw yn onest â Job: “Dyma wyt ti wedi ei ddweud, . . . ‘Dw i’n ddieuog, heb wneud dim o’i le; dw i’n lân, a heb bechu. Ond mae Duw wedi troi yn fy erbyn.’” Aeth Elihw yn syth at galon y broblem, gan ofyn: “Wyt ti’n meddwl ei bod hi’n iawn i ti ddweud, ‘Fi sy’n iawn, nid Duw’?” Ni allai Elihw anwybyddu’r fath resymu. “Ti ddim yn iawn,” meddai’r dyn ifanc. (Job 33:8-12; 35:2) Roedd Elihw yn gwybod bod calon Job yn llawn dicter oherwydd ei brofedigaethau ac am y ffordd roedd ei gyfeillion wedi ei drin. Ond rhybuddiodd: “Gwylia rhag troi at y drwg.”—Job 36:21.

Elihw yn Pwysleisio Caredigrwydd Jehofa

 Yn bennaf oll, roedd Elihw eisiau esbonio bod Jehofa bob amser yn gyfiawn. Mewn geiriau syml, fe aeth at galon y gwir: “Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le! . . . Dydy’r Un sy’n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder.” (Job 34:10, 12) Fe wnaeth Elihw dynnu sylw at drugaredd Jehofa, gan atgoffa Job nad oedd Jehofa wedi ei gosbi am siarad yn fyrbwyll ac yn amharchus. (Job 35:12-16, BCND) Ac yn hytrach na honni bod yr holl atebion ganddo, fe wnaeth Elihw gydnabod: “Mae Duw yn fawr—y tu hwnt i’n deall ni.”—Job 36:26.

 Siaradodd Elihw yn onest, ond roedd yn dal yn garedig. Dywedodd y byddai Jehofa yn adfer iechyd Job ryw ddydd. Byddai Duw yn dweud amdano: “Bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc; bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!” Ceir enghraifft arall o garedigrwydd Elihw. Yn lle rhoi pregeth i Job, rhoddodd gyfle iddo siarad, ac i ateb ei sylwadau. “Os oes gen ti rywbeth i’w ddweud,” meddai, “ateb fi; dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti’n iawn.” (Job 33:25, 32) Ond ni wnaeth Job ateb. Efallai ei fod yn teimlo nad oedd angen amddiffyn ei hun yn erbyn cyngor caredig Elihw. Efallai iddo wylo mewn rhyddhad.

 Gallwn ddysgu llawer oddi wrth y ddau ddyn ffyddlon hyn. Mae Elihw yn dangos sut y dylen ni gysuro a rhoi cyngor. Ni fydd cyfaill triw yn dal yn ôl rhag tynnu ein sylw at wendid difrifol neu gam gwag. (Diarhebion 27:6) Rydyn ni eisiau bod yn ffrindiau triw, sy’n aros yn garedig ac yn galonogol, hyd yn oed wrth y rhai sy’n siarad yn fyrbwyll. Pan fydd angen cyngor o’r fath arnon ninnau, bydd cofio esiampl Job yn ein helpu ni i wrando yn wylaidd ar y cyngor yn lle wfftio ato. Mae pawb angen eu cynghori a’u cywiro o bryd i’w gilydd. Mae derbyn cyngor yn gallu achub ein bywydau.—Diarhebion 4:13.

‘Ateb o’r Storm’

 Yn ei araith, cyfeiriodd Elihw yn aml at y gwynt, y cymylau, a mellt a tharanau. Dywedodd am Jehofa: “Gwrandwch ar ei lais yn rhuo.” Ychydig o funudau wedyn, soniodd Elihw am ‘gorwynt yn codi.’ (Job 37:2, 9) Ymddengys fod storm i’w gweld ar y gorwel wrth iddo siarad, a’i bod yn nesáu atyn nhw ac yn cryfhau. Cododd y gwyntoedd a throi’n gorwynt. Ac yna digwyddodd rhywbeth mwy dramatig byth. Clywon nhw lais Jehofa yn siarad!—Job 38:1.

Dychmygwch gael gwrando ar ddarlith ar fyd natur gan y Creawdwr ei hun!

 Wrth ddarllen llyfr Job, rhyddhad mawr yw cyrraedd y penodau gwych hyn sy’n cynnwys araith Jehofa wrth Job. Mae fel petai storm y gwirionedd yn ysgubo ymaith holl eiriau gwag Eliffas, Bildad, a Soffar. Ni wnaeth Jehofa droi ei sylw at y dynion hynny ar unwaith. Rhoddodd ei holl sylw ar Job yn unig, gan siarad â’i was annwyl fel y byddai tad yn cywiro ei fab.

 Roedd Jehofa’n gwybod sut roedd Job yn dioddef. Tosturiodd wrtho, fel y mae’n tosturio wrth bob un o’i blant annwyl sy’n dioddef. (Eseia 63:9; Sechareia 2:8) Ond fe wyddai hefyd fod Job “yn siarad heb ddeall dim,” a bod hynny yn gwneud ei broblemau’n waeth. Felly fe gywirodd Job drwy ofyn cyfres o gwestiynau a fyddai’n gwneud iddo feddwl. “Ble roeddet ti,” holodd Duw, “pan osodais i sylfeini’r ddaear? Ateb fi os wyt ti’n gwybod y cwbl!” Adeg y creu, roedd yr holl angylion wedi “gweiddi’n llawen” pan welon nhw weithredoedd rhyfeddol Duw. (Job 38: 2, 4, 7) Wrth gwrs nid oedd Job yn gwybod dim am hyn.

Clywodd Job lais caredig Jehofa yn siarad o’r storm, yn cywiro ei agwedd

 Aeth Jehofa ymlaen i sôn am y pethau yr oedd wedi eu creu. Mewn ffordd, cafodd Job daith dywys drwy’r gwyddorau naturiol, gan gynnwys seryddiaeth, bioleg, daeareg a ffiseg. Disgrifiodd Jehofa nifer o’r anifeiliaid a oedd i’w gweld yn yr ardal lle roedd Job yn byw—y llew, y gigfran, yr afr fynydd, yr asyn gwyllt, yr ych gwyllt, yr estrys, y ceffyl, yr hebog, y fwltur, y Behemoth a’r Lefiathan (yr hipopotamws a’r crocodeil, mae’n debyg). Dychmygwch wrando ar ddarlith ar fyd natur wedi ei rhoi gan y Creawdwr ei hun. Am fraint! b

Dysgu am Ostyngeiddrwydd a Chariad

 Beth oedd pwynt hyn oll? Roedd taer angen gwers mewn gostyngeiddrwydd ar Job. Drwy gwyno am y ffordd annheg yr oedd Jehofa, yn ei farn ef, wedi ei drin, roedd Job yn pellhau oddi wrth ei Dad cariadus a gwneud ei sefyllfa yn fwy poenus byth. Felly dro ar ôl tro, gofynnodd Jehofa ble roedd Job pan ddaeth rhyfeddodau’r creu i fod, ac a oedd Job yn gallu bwydo, rheoli, neu ddofi’r anifeiliaid yr oedd Duw wedi eu gwneud. Os nad oedd Job yn gallu meistroli hyd yn oed y pethau sylfaenol yr oedd Jehofa wedi eu creu, pa hawl oedd ganddo i feirniadu’r Creawdwr? Onid oedd hi’n amlwg bod ffyrdd a meddyliau Jehofa ymhell y tu hwnt i ddeall cyfyngedig Job?

Ni wnaeth Job ddadlau â Jehofa, na chyfiawnhau ei hun, na chynnig esgusodion

 Mae cariad mawr Jehofa i’w glywed ym mhopeth a ddywedodd wrth Job. Mae fel petai Jehofa yn rhesymu â Job, gan ddweud: ‘Fy mab, os ydw i’n gallu creu’r holl bethau hyn a gofalu amdanyn nhw, a wyt ti o ddifri yn meddwl na fyddaf yn gofalu amdanat ti? A fyddwn i’n cefnu arnat ti, a chymryd dy blant, dy iechyd, a phopeth sy’n rhoi sicrwydd i dy fywyd? Onid fi yw’r unig un sy’n gallu rhoi’r pethau hyn yn ôl iti a lleddfu dy boen?’

 Ddwywaith yn unig atebodd Job gwestiynau treiddgar Jehofa. Ni cheisiodd ddadlau, na chyfiawnhau ei hun na chynnig esgusodion. Fe wnaeth gydnabod cyn lleied yr oedd yn ei ddeall, ac edifarhau am ei eiriau byrbwyll. (Job 40:4, 5; 42:1-6) Gwelwn yma ffydd Job ar ei gorau. Er gwaethaf popeth, roedd ei ffydd yn dal yn gadarn. Derbyniodd gyngor Jehofa a newidiodd ei agwedd. O ystyried esiampl Job, efallai byddwn ni’n gofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n ddigon gostyngedig i groesawu cyngor ac i dderbyn cael fy nghywiro?’ Mae angen cyngor arnon ni i gyd. Ac o’i dderbyn, rydyn ni’n efelychu ffydd Job.

‘Nid Ydych Chi Wedi Dweud Beth Sy’n Wir Amdana i’

 Nesaf, cymerodd Jehofa gamau i gysuro Job. Wrth Eliffas, yr hynaf mae’n debyg o’r tri, dywedodd Jehofa: “Dw i’n ddig iawn gyda ti a dy ddau ffrind, am beidio dweud beth sy’n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.” (Job 42:7) Meddyliwch am y geiriau hynny. A oedd Jehofa yn dweud mai anghywir oedd pob gair o enau’r tri dyn a chywir oedd pob gair a ddywedodd Job? Nac oedd. c Ond roedd gwahaniaeth mawr rhwng Job a’i gyhuddwyr. Dyn wedi torri ei galon oedd Job, wedi ei lethu gan ei alar a’r cyhuddiadau annheg. Gellir deall felly pam y byddai’n siarad yn fyrbwyll ar adegau. Ond nid oedd Eliffas a’i ddau gyfaill yn gwegian dan y fath feichiau. Roedd eu geiriau nhw yn fwriadol greulon, yn tarddu o’u balchder a’u diffyg ffydd gadarn. Nid yn unig roedden nhw wedi ymosod ar ddyn dieuog, ond yn waeth byth, roedden nhw wedi rhoi darlun camarweiniol o Jehofa ei hun, a’i bortreadu yn Dduw creulon a drwg.

 Roedd hi’n rhesymol felly i Jehofa ofyn i’r dynion hynny dalu pris. Roedd yn rhaid iddyn nhw offrymu saith tarw a saith hwrdd. Nid mater bach oedd hyn, oherwydd o dan Gyfraith Moses maes o law, tarw oedd yr anifail y byddai’r archoffeiriad yn ei offrymu petai ei bechod wedi dwyn euogrwydd ar y genedl gyfan. (Lefiticus 4:3) Dyna’r anifail mwyaf costus y byddai rhywun yn ei offrymu o dan y Gyfraith honno. Ar ben hynny, dywedodd Jehofa na fyddai’n derbyn offrwm y tri dyn oni bai bod Job yn gweddïo drostyn nhw’n gyntaf. d (Job 42:8) Mae’n siŵr mai cysur mawr i Job oedd clywed ei Dduw yn ei amddiffyn a gweld cyfiawnder Jehofa ar waith.

“Bydd fy ngwas Job yn gweddïo drosoch chi.”—Job 42:8

 Roedd Jehofa’n hyderus y byddai Job yn maddau i’r dynion oedd wedi ei frifo cymaint. Ni wnaeth Job siomi ei Dad. (Job 42:9) Ei ufudd-dod oedd y prawf mwyaf o’i ffyddlondeb, yn llawer grymusach na geiriau. Dyna a agorodd y ffordd i fendithion mwyaf Job.

“Mae Tosturi a Thrugaredd yr Arglwydd Mor Fawr!”

 Roedd Jehofa’n drugarog iawn wrth Job. (Iago 5:11) Ym mha ffordd? Adferodd Jehofa iechyd Job. Dychmygwch sut roedd Job yn teimlo pan welodd fod “ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc,” fel roedd Elihw wedi ei ragweld! Tyrrodd ei deulu a’i ffrindiau ato o’r diwedd, i gydymdeimlo ac i ddod â rhoddion. Adferodd Jehofa gyfoeth Job hefyd, gan roi iddo ddwywaith yr hyn oedd ganddo o’r blaen. A beth am y golled fwyaf, sef ei blant? Cafodd Job a’i wraig rywfaint o gysur drwy ddod yn rhieni i ddeg o blant eraill! Fe wnaeth Jehofa estyn bywyd Job am 140 o flynyddoedd, yn ddigon hir iddo weld pedair cenhedlaeth o’i deulu. Mae’r hanes yn dweud: “Roedd Job yn hen ŵr mewn oedran mawr pan fuodd e farw.” (Job 42:10-17) Ac yn y Baradwys, bydd Job a’i wraig annwyl yn deulu cyfan unwaith eto, gan gynnwys y deg o blant a fu farw oherwydd ymosodiad Satan.—Ioan 5:28, 29.

 Pam gwnaeth Jehofa fendithio Job mor helaeth? Mae’r Beibl yn ateb: “Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy’r cwbl.” (Iago 5:11) Daliodd Job ati drwy’r math o galedi y mae’n anodd i’r rhan fwyaf ohonon ni ei ddychmygu. Mae’r ymadrodd “dal ati” yn golygu bod Job wedi gwneud mwy na goroesi. Fe ddyfalbarhaodd heb golli ei ffydd na’i gariad tuag at Jehofa. Yn hytrach na throi’n chwerw a chalon-galed, roedd yn dal yn barod i faddau i eraill, hyd yn oed i’r rhai oedd wedi ei frifo’n fwriadol. Daliodd ei afael ar ei obaith, ac ar y peth pwysicaf oll, ei ffyddlondeb.—Job 27:5, BCND.

 Mae angen inni i gyd ddal ati. Ceisiodd Satan ddigalonni Job, ac yn sicr fe fydd yn ceisio gwneud yr un fath i ni. Ond os ydyn ni’n dal ati mewn ffydd, yn aros yn ostyngedig, yn barod i faddau i eraill, ac yn benderfynol o aros yn ffyddlon, ni fyddwn ni byth yn colli gafael ar ein gobaith. (Hebreaid 10:36) Nid oes dim yn digio Satan yn fwy, nac yn plesio calon gariadus Jehofa’n fwy na’n gweld ni’n efelychu ffydd Job!

a Roedd Eliffas, Bildad, a Soffar wedi siarad yn hirfaith â Job—yn ddigon i lenwi naw pennod yn y Beibl—ond nid oes yr un enghraifft ohonyn nhw’n defnyddio enw Job.

b Ar adegau, roedd Jehofa’n symud yn rhwydd rhwng disgrifiadau diriaethol, llythrennol a rhai haniaethol neu fwy barddonol. (Gweler, er enghraifft, Job 41:1, 7, 8, 19-21.) Ond yr un oedd y nod bob tro, sef helpu Job i feithrin mwy o barch tuag at y Creawdwr.

c Cyfeiriodd yr apostol Paul at un o sylwadau Eliffas a’i ddyfynnu fel gwirionedd. (Job 5:13; 1 Corinthiaid 3:19) Ynddo ei hun, roedd yr hyn a ddywedodd Eliffas yn wir, ond nid oedd yn wir yn achos Job.

d Nid oes unrhyw gofnod bod Jehofa wedi gofyn i Job gynnig offrwm tebyg ar ran ei wraig.