Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Croen Clyfar Ciwcymbyr y Môr

Croen Clyfar Ciwcymbyr y Môr

 Anifail sy’n byw ar wely’r môr neu mewn riffiau cwrel yw ciwcymbyr y môr. Gall eu cyrff fod yn lympiau i gyd, neu hyd yn oed yn bigog. Maen nhw’n hynod o hyblyg; o fewn munudau neu eiliadau hyd yn oed, maen nhw’n gallu troi i fod yn feddal fel cwyr neu’n stiff fel pren. Mae’r fath hyblygrwydd yn caniatáu i giwcymbrau môr wthio eu ffordd i mewn i lefydd cyfyng iawn gan droi’n stiff wedyn fel na all ysglyfaethwyr eu tynnu allan. Cyfrinach ciwcymbyr y môr yw ei groen rhyfeddol.

 Ystyriwch: Mae gan groen ciwcymbyr y môr dri chyflwr​—stiff, canolig, a meddal. I newid rhwng dau gyflwr, mae ciwcymbrau môr yn cysylltu neu’n datgysylltu ffibrau yn eu croen. Byddan nhw’n gwneud hynny drwy ddeffro gwahanol broteinau caledu neu feddalu.

 Mae proteinau caledu yn ffurfio pontydd neu gadwyni bychain rhwng ffibrau yn y feinwe gyswllt, gan galedu’r croen. Mae proteinau meddalu yn datgysylltu’r ffibrau, gan wneud y croen yn feddalach. Gall croen ciwcymbyr y môr fynd mor feddal, mae’n ymddangos ei fod yn toddi.

 Mae gwyddonwyr yn datblygu deunyddiau sy’n efelychu hyblygrwydd croen ciwcymbyr y môr. Un peth maen nhw’n ceisio ei ddatblygu yw electrodau ar gyfer llawdriniaeth ar yr ymennydd, rhai sy’n ddigon stiff i gael eu rhoi yn union y man cywir ond sydd wedyn â’r gallu i droi’n feddalach. Byddai’r fath hyblygrwydd mewn electrodau yn lleihau’r tebygrwydd ohonyn nhw’n cael eu gwrthod gan y corff.

 Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygu a wnaeth croen clyfar ciwcymbyr y môr? Neu a gafodd ei ddylunio?