CÂN 135
Anogaeth Wresog Jehofa: “Bydd Ddoeth, Fy Mab”
(Diarhebion 27:11)
-
1. Fy mab gwiw, fy ngeneth,
eich calon imi rhowch,
Yn nerth eich ieuenctid
i’r sanctaidd waith ymrowch.
Fe wêl ‘duw y byd hwn’
mai f’eiddo ydych chi;
Mae sêl eich ymroddiad
yn codi ’nghalon i.
(CYTGAN)
F’anwylaf fab, fy ngeneth werthfawr,
Bydd ddoeth yn dy ddewisiad di.
Mae purdeb ymroddiad dy galon,
Yn dod â phleser mawr i mi.
-
2. Fe rof ichi gryfder;
Myfi yw’ch tirion Dduw.
O peidiwch ag ofni,
fy mab a’m geneth wiw.
Er gwaethaf pob rhwystr,
eich helpu chi a wnaf.
O weld eich ffyddlondeb,
gorfoledd mawr a gaf.
(CYTGAN)
F’anwylaf fab, fy ngeneth werthfawr,
Bydd ddoeth yn dy ddewisiad di.
Mae purdeb ymroddiad dy galon,
Yn dod â phleser mawr i mi.
(Gweler hefyd Deut. 6:5; Preg. 11:9; Esei. 41:13.)