Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 14

Clodfori Brenin Newydd y Ddaear

Clodfori Brenin Newydd y Ddaear

(Salm 2:12)

  1. 1. Mae pobl o bob llwyth ac iaith

    yn dod ynghyd yn dyrfa,

    Eu casglu hwy i Grist y mae’r

    eneiniog gynulleidfa.

    Yn Frenin dros holl ddynol ryw,

    Crist Iesu wna ewyllys Duw.

    Heb os, gobaith amhrisiadwy yw.

    Gwyn ein byd; Duw yw ein noddfa.

    (CYTGAN)

    Clod i’n Duw, Jehofa; Clod i’w Fab, Crist Iesu—

    Brenin brenhinoedd yn awr yw ef.

    Anrhydeddu wnawn ein Harglwydd, y Crist,

    Yn unol drwy’r ddae’r a’r nef.

  2. 2. Clodforwn Grist â llawen gân,

    moliannwn ei frenhiniaeth.

    Tywysog Hedd, a Barnwr yw,

    trwy ef cawn iachawdwriaeth.

    Llawenydd mawr o’n blaen nawr sydd—

    Y ddaear fel gardd Eden fydd,

    A bywyd i’r meirwon, ef a rydd.

    Gwyn ei byd yr holl ddynoliaeth!

    (CYTGAN)

    Clod i’n Duw, Jehofa; Clod i’w Fab, Crist Iesu—

    Brenin brenhinoedd yn awr yw ef.

    Anrhydeddu wnawn ein Harglwydd, y Crist,

    Yn unol drwy’r ddae’r a’r nef.

(Gweler hefyd Salm 2:6; 45:1; Esei. 9:6; Ioan 6:40.)