Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 141

Gwyrth Bywyd

Gwyrth Bywyd

(Salm 36:9)

  1. 1. Bywyd plentyn bach, cread gloyw-liw,

    Haul a glaw a chnwd y maes, golwg a chlyw—

    Rhoddion cariad ŷnt i’r ddynoliaeth fyrdd;

    Gwyrthiau lu sy’n dangos inni nerth Duw a’i ffyrdd.

    (CYTGAN)

    Pan ddaw i’n meddiant ni’r fath ryfeddol rodd,

    Diolch wnawn i’n Tad cariadus; ein calon gyffrôdd.

    Mae caredigrwydd Duw tu hwnt i’n hamgyffred.

    Rhodd heb ei haeddu yw rhyfeddod bod a byw.

  2. 2. Colli gobaith wna rhai o’r ddynol ryw,

    Mae’n well ganddynt, fel gwraig Job, felltithio Duw.

    Nid fel hyn wnawn ni; moliant iddo rown,

    Ac â chalon werthfawrogol o’i flaen y down.

    (CYTGAN)

    Pan ddaw i’n meddiant ni amhrisiadwy rodd,

    Caru wnawn ein hannwyl deulu; ein calon gyffrôdd.

    Mae caredigrwydd Duw tu hwnt i’n hamgyffred.

    Rhodd heb ei haeddu yw rhyfeddod bod a byw.

(Gweler hefyd Job 2:9; Salm 34:12; Preg. 8:15; Math. 22:37-40; Rhuf. 6:23.)