CÂN 157
Heddwch Pur!
(Psalm 29:11)
1. Yng nghysgodfa y porth,
Mewn cilfach o hedd,
Llocheswn yn noddfa y bae.
Er yr heli hallt
A’r ewyn ar bob ton,
Mae angor ein ffydd
yn parhau.
(CYTGAN)
Cawn ni heddwch go iawn
O fewn dim o dro.
Daw’r cread oll ynghyd.
Dros bob mynydd a dyffryn
Hyd ben draw’r byd,
Heddwch gawn cyn bo hir—
Heddwch pur!
2. Ar ôl cyffro y storm,
Llonydd a gawn
Drwy’r nefoedd a’r ddaear i gyd.
Ac ar awel deg
O gariad ac o hedd
Bydd hwyliau yn codi drwy’r byd!
(CYTGAN)
Cawn ni heddwch go iawn
O fewn dim o dro.
Daw’r cread oll ynghyd.
Dros bob mynydd a dyffryn
Hyd ben draw’r byd,
Heddwch gawn cyn bo hir—
Heddwch pur!
(CYTGAN)
Cawn ni heddwch go iawn
O fewn dim o dro.
Daw’r cread oll ynghyd.
Dros bob mynydd a dyffryn
Hyd ben draw’r byd,
Heddwch gawn cyn bo hir.
(CYTGAN)
Cawn ni heddwch go iawn
O fewn dim o dro.
Daw’r cread oll ynghyd.
Dros bob mynydd a dyffryn
Hyd ben draw’r byd,
Heddwch gawn cyn bo hir—
Heddwch pur!
Heddwch pur!
(Gweler hefyd Salm 72:1-7; Esei. 2:4; Rhuf. 16:20)