Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 22

Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!

Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!

(Datguddiad 11:15; 12:10)

  1. 1. Jehofa yr oesoedd wyt ti,

    Hyd byth y byddi’n byw.

    Yr orsedd a roddaist i Grist,

    Dy Fab eneiniog gwiw.

    Rheoli nawr mae Teyrnas Dduw,

    Llywodraeth rymus gyfiawn yw.

    (CYTGAN)

    Crist Iesu yw ein Llyw!

    I’w nerth a’i awdurdod rhown glod.

    Sefydlwyd Teyrnas Dduw.

    Gweddïwn: “O gad iddi ddod!”

  2. 2. Mae amser y Diafol yn fyr;

    Ac yntau’n fawr ei lid.

    Yn llygad ein meddwl rhaid gweld

    Tu hwnt i wae ein byd.

    Rheoli mae y Deyrnas nawr,

    Bendithion amhrisiadwy gawn.

    (CYTGAN)

    Crist Iesu yw ein Llyw!

    I’w nerth a’i awdurdod rhown glod.

    Sefydlwyd Teyrnas Dduw.

    Gweddïwn: “O gad iddi ddod!”

  3. 3. Pan daflwyd y Diafol i’r byd,

    O’r nefoedd clywyd llef:

    ‘Angylion y nen llawenhewch

    Dros gyflwr glân y nef!’

    Rheoli mae y Deyrnas nawr,

    Y garreg ddaw yn fynydd mawr.

    (CYTGAN)

    Crist Iesu yw ein Llyw!

    I’w nerth a’i awdurdod rhown glod.

    Sefydlwyd Teyrnas Dduw.

    Gweddïwn: “O gad iddi ddod!”

(Gweler hefyd Dan. 2:34, 35; 2 Cor. 4:18.)