Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 28

Dod yn Ffrind i Jehofa

Dod yn Ffrind i Jehofa

(Salm 15)

  1. 1. Pwy yw dy ffrind, O Dduw?

    Pwy a gaiff ddod o’th flaen?

    Pwy a gaiff agosáu atat ti?

    Pwy sy’n dy lawenhau?

    Pawb sydd yn caru d’Air,

    Pawb sydd yn foesol bur,

    Pawb sydd yn cadw’n driw at ei air,

    Pawb sydd yn byw y gwir.

  2. 2. Pwy yw dy ffrind, O Dduw?

    Pwy sy’n d’adnabod di?

    Pwy sydd yn gwneud dy galon yn llon?

    Pwy sydd yn ffrind i ti?

    Pawb sydd â chalon lân,

    Pawb sydd yn ufuddhau,

    Pawb sydd yn ffyddlon, gonest a theg,

    Pawb sydd yn dy fawrhau.

  3. 3. Tywallt ein calon gawn,

    Teimlwn dy gariad di,

    Teimlwn dy ofal, teimlwn yn saff,

    Ti’n wir ein nabod ni.

    Diolch am fod yn ffrind,

    Cyfaill di-ail wyt ti.

    Nes atat ti y down ni bob dydd,

    Ti yw’r ffrind gorau sy’.

(Gweler hefyd Salm 139:1; 1 Pedr 5:6, 7.)