Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 32

Saf o Blaid Jehofa!

Saf o Blaid Jehofa!

(Exodus 32:26)

  1. 1. Cyn i ni ddysgu a deall y gwir,

    Yfed a wnaethom o gwpan amhur.

    Mawr yw’n llawenydd wrth yfed dŵr clir,

    A chanu â chalon lân.

    (CYTGAN)

    Saf o blaid Jehofa, Ei gwmni, mwynha!

    Byth wna ef dy siomi, Yn Nuw llawenha.

    Rhanna dy orfoledd, Rhanna’r newydd da

    Am Grist a’i Deyrnasiad—Hir fydd ei barhad.

  2. 2. Hwn ydyw’r amser i sefyll o’i blaid,

    Hon ydyw’r awr, penderfynu sydd rhaid.

    Felly pregethu a wnawn yn ddi-baid

    Er mwyn rhoi cyfle i bawb.

    (CYTGAN)

    Saf o blaid Jehofa, Ei gwmni, mwynha!

    Byth wna ef dy siomi, Yn Nuw llawenha.

    Rhanna dy orfoledd, Rhanna’r newydd da

    Am Grist a’i Deyrnasiad—Hir fydd ei barhad.

  3. 3. Ni wnawn ni ofni’r Diafol a’i dwyll.

    Serch popeth wnaeth, daeth y lleiaf yn llwyth.

    Trystiwn Jehofa o’n calon, yn llwyr.

    Ef yw’n cadernid a’n cân.

    (CYTGAN)

    Saf o blaid Jehofa, Ei gwmni, mwynha!

    Byth wna ef dy siomi, Yn Nuw llawenha.

    Rhanna dy orfoledd, Rhanna’r newydd da

    Am Grist a’i Deyrnasiad—Hir fydd ei barhad.

(Gweler hefyd Salm 94:14; Diar. 3:5, 6; Heb. 13:5.)