Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 39

Gwneud Enw Da Gyda Duw

Gwneud Enw Da Gyda Duw

(Pregethwr 7:1)

  1. 1. Bob dydd, fe geisiwn Wneud enw gyda Duw.

    Uwch yw nag arian, Yn well na chyfoeth yw.

    Os gwnawn yr hyn sy’n iawn, Gwneud enw da a wnawn,

    A chyfeillgarwch Jehofa gawn.

  2. 2. Mae bod yn enwog Yn bwysig yn y byd.

    Mae clod y dyrfa Yn denu rhai o hyd.

    Ond dim ond balchder gwag Yw hud y byd a’i frad.

    Ger bron Jehofa Gwnawn enw da.

  3. 3. Mae Duw yn sylwi Ar bawb sy’n ddewr eu ffydd.

    Mae’n cadw cofnod O’u henwau—rhestr sydd.

    Gwneud enw gyda Duw A wnawn tra byddwn byw.

    Yng nghof Jehofa, Diogel yw.

(Gweler hefyd Gen. 11:4; Diar. 22:1; Mal. 3:16; Dat. 20:15.)