Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 45

Myfyrdod Fy Nghalon

Myfyrdod Fy Nghalon

(Salm 19:14)

  1. 1. Dduw, boed i’m geiriau i bob dydd,

    A myfyrdodau nghalon i,

    Fy nghadw’n gadarn yn y ffydd

    A dod â phleser mawr i ti.

    Wrth orwedd ar fy ngwely i,

    Wrth aflonyddu yn y nos,

    Dwi’n troi fy meddwl atat ti,

    At bethau da sy’n haeddu clod.

  2. 2. Myfyriaf ar yr hyn sy’n iawn,

    Yn anrhydeddus ac yn wir.

    Derbyniaf heddwch o dy law

    Wrth gofio’r hyn sy’n deg a phur.

    Mor ddwfn yw dy feddyliau di,

    Mor werthfawr ydynt oll i mi.

    Fy Nuw, fy Nghraig, archwilia fi

    A myfyrdodau nghalon i.

(Gweler hefyd Salm 49:3; 63:6; 139:17, 23; Phil. 4:7, 8; 1 Tim. 4:15.)