Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 65

Bwria Ymlaen!

Bwria Ymlaen!

(Hebreaid 6:1)

  1. 1. Bwria ’mlaen gan lewyrchu goleuni’r gwir!

    Dalier ati! Bob dydd, rhanna’r neges lân a phur.

    Gwna dy orau i ddatgan ei Air yn glir.

    Ymddirieda’n llwyr yn Nuw.

    Yn y gwaith o bregethu parhawn,

    Dilyn ôl traed Crist Iesu a wnawn.

    Trown at Dduw, ac ei ysbryd a’i fendith gawn.

    Ei gefnogaeth, cyson yw.

  2. 2. Bwria ’mlaen gan gyhoeddi’r newyddion da!

    Dalier ati! Parha! Helpa bobl o bob math.

    I Jehofa, ein Brenin, cawn seinio cân

    Fel un côr ledled y byd.

    Paid dal nôl. Amddiffynna y gwir!

    Saf yn gryf ac yn ddewr! Dal dy dir!

    Paid â dychryn na chilio mewn panics pur.

    Brwydro’n ffyddlon wnawn ynghyd.

  3. 3. Bwrw ’mlaen wnawn gan gofio i alw’n ôl.

    Newid dull, hogi sgìl,

    gwneud ein gorau glas yw’n nod.

    Daliwn ati! Pregethwn dros fryn a dôl,

    Wrth aeddfedu yn y ffydd.

    Ar ôl bwydo’r rhai newydd ar laeth,

    Daliwn ati i roi iachus faeth.

    Wrth ymdrechu a bwrw ymlaen â’r gwaith,

    Ein goleuni, llachar fydd.