CÂN 91
Llafur Ein Cariad
(Salm 127:1)
-
1. Jehofa, dyma dy dŷ,
Yr hwn a adeiladon ni.
Dy allu, amlwg yw—
Ti, ein Duw, a fendithiodd ni.
Jehofa, atat y trown.
Mewn cân, i’th foli di y down.
O’n cariad, gweithion ni ar dy dŷ.
Gwaith ein dwylo rown.
(CYTGAN)
Jehofa, hynod yw’r anrhydedd
O ganmol d’enw da a’th fri.
Arbennig fraint yw dangos cariad drwy’n llafur ni,
A dyma hi—Ein rhodd i ti.
-
2. Mae pawb o’n cwmpas yn llon,
Llawenydd mawr sydd yn ein bron.
Daethom yn ffrindiau da!
Roedd hi’n braf gweithio law yn llaw!
Jehofa, diolch yn fawr
Am roi’r glân ysbryd ar ein dawn.
Er dy ogoniant di gweithion ni.
Pêr atgofion gawn.
(CYTGAN)
Jehofa, hynod yw’r anrhydedd
O ganmol d’enw da a’th fri.
Arbennig fraint yw dangos cariad drwy’n llafur ni,
A dyma hi—Ein rhodd i ti.
(Gweler hefyd Salm 116:1; 147:1; Rhuf. 15:6.)