CÂN 94
Gwerthfawrogi Gair Duw
-
1. O’r galon, diolchwn i ti nefol Dad
Am roi yn ein meddiant dy Air llawn llesâd.
Dy Air ysbrydoledig
Sydd wedi ein rhyddhau.
Goleuni’r gwirionedd parhawn i’w fwynhau.
-
2. Mae d’Air di yn treiddio yn ddyfnach na dim.
Mae d’Air di yn finiog, yn fyw, a’n llawn grym.
Dy ddeddfau di sy’n berffaith,
Dy farnau di sy’n wir,
Dy holl egwyddorion sy’n lân ac yn bur.
-
3. Cawn ddarllen am bobl o’r oesoedd a fu,
Roedd ganddynt deimladau yr un fath â ni.
Dy Air di a’u cryfhaodd,
Mwy gwerthfawr yw nag aur.
Jehofa, rhown ddiolch am drysor dy Air.
(Gweler hefyd Salm 19:9; 119:16, 162; 2 Tim. 3:16; Iago 5:17; 2 Pedr 1:21.)