Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dau Gyfieithydd Wnaeth Roi Enw Duw yn ôl yn y Testament Newydd

Dau Gyfieithydd Wnaeth Roi Enw Duw yn ôl yn y Testament Newydd

 Mae llawer ohonon ni yn gyfarwydd â Gweddi’r Arglwydd, sef yr un gwnaeth Iesu ei dysgu i’w ddilynwyr. Mae’r weddi honno yn y Testament Newydd ac mae’n cychwyn fel hyn: “Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw.” (Mathew 6:9, Beibl Cysegr-lân) Er hynny, prin mae enw Duw, “Jehofa” neu weithiau “Iahwe,” yn ymddangos mewn cyfieithiadau Saesneg o’r Testament Newydd. Ond eto, maen nhw’n cynnwys enwau gau dduwiau fel Zeus, Hermes, ac Artemis. Felly, pam nad ydyn nhw’n defnyddio enw’r gwir Dduw ac awdur y Beibl?—Actau 14:12; 19:35; 2 Timotheus 3:16.

Mae’r Testament Newydd yn enwi sawl gau dduw, felly pam na ddylai enwi’r gwir Dduw hefyd?

 Daeth y cyfieithwyr Saesneg Lancelot Shadwell a Frederick Parker i’r casgliad fod enw Duw wedi cael ei gymryd allan o’r Testament Newydd rywbryd neu’i gilydd, ac roedden nhw’n credu y dylai’r enw hwnnw gael ei roi yn ôl lle dylai fod. Ond sut daethon nhw i’r casgliad hwnnw?

 Roedd Shadwell a Parker yn gwybod bod enw Duw yn codi miloedd o weithiau yn yr Hen Destament a gafodd ei ysgrifennu’n wreiddiol yn Hebraeg. Felly, doedden nhw ddim yn deall pam roedd enw Duw ar goll o lawysgrifau’r Testament Newydd oedd ar gael iddyn nhw. a Gwnaeth Shadwell hefyd sylwi bod y Testament Newydd yn aml yn defnyddio ymadroddion o’r Hen Destament, er enghraifft, “angel Jehofa.” Yn amlwg, roedd copïwyr y Testament Newydd wedi disodli enw Duw â geiriau fel Kyrios sy’n golygu “Arglwydd.”—2 Brenhinoedd 1:3, 15; Actau 12:23.

Enw Duw yn Hebraeg

 Cyn i Shadwell a Parker gyhoeddi eu cyfieithiadau Saesneg, roedd cyfieithwyr Saesneg eraill eisoes wedi rhoi enw Duw yn ôl yn y Testament Newydd mewn ambell i le. b Gwnaeth Parker ryddhau A Literal Translation of the New Testament ym 1863. Ond, cyn hynny, mae’n ymddangos nad oedd unrhyw gyfieithydd Saesneg wedi adfer enw Duw ym mhob achos yn y Testament Newydd. Pwy oedd Lancelot Shadwell a Fredrick Parker?

Lancelot Shadwell

 Roedd Lancelot Shadwell (1808-1861) yn fab i Syr Lancelot Shadwell, is-ganghellor Lloegr. Roedd Shadwell yn fargyfreithiwr ac yn perthyn i Eglwys Loegr. Er roedd yn credu yn y drindod, roedd yn parchu enw Duw, ac yn ei ddisgrifio fel “enw bendigedig JEHOFA.” Yn ei gyfieithiad, The Gospels of Matthew, and of Mark, defnyddiodd yr enw “Jehofa” 28 gwaith yn y prif destun a 465 o weithiau o fewn y nodiadau.

 Mae’n bosib wnaeth Shadwell ddysgu am enw Duw drwy ei weld yn yr Hen Destament Hebraeg. Dywedodd am y rhai wnaeth ddisodli enw Duw â’r term Kyrios yng nghyfieithiad Groeg yr Hen Destament, “Doedden nhw ddim yn cyfieithwyr onest.”

The Gospel according to Matthew rendered into English with notes, by L. Shadwell (1859), provided by the Bodleian Libraries. Licensed under CC BY-NC-SA 2.0 UK. Modified: Text highlighted

Cyfieithiad Shadwell yn dangos Mathew 1:20

 Defnyddiodd Shadwell yr enw Jehofa am y tro cyntaf yn ei gyfieithiad yn Mathew 1:20. Ysgrifennodd nodyn ar yr adnod honno oedd yn dweud: “Mae’r gair [Kyrios] yn fan hyn, sydd hefyd yn codi mewn llawer o adnodau yn y T.N. yn golygu JEHOFA, sef enw Duw. Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n adfer yr enw hwn i’r cyfieithiad Saesneg.” Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’n rhaid gwneud hyn er mwyn anrhydeddu Duw. Ef ei hun sydd wedi dweud mai JEHOFA yw ei enw, felly dylen ni ddefnyddio’r enw hwnnw wrth inni siarad amdano.” Yna dywedodd: “Yn ein fersiwn ni o’r Beibl [Authorized Version, neu Beibl y Brenin Iago] dydy enw JEHOFA ddim yn cael ei ddefnyddio llawer . . . Yn hytrach, rydyn ni’n gweld Arglwydd.” Yn ôl Shadwell, “mae Arglwydd . . . yn deitl hollol anaddas” i gyfeirio at Dduw, gan ychwanegu ei fod ef ei hun yn cael ei alw’n “Arglwydd” yn ei gartref.

“Duw ei hun sydd wedi dweud mai JEHOFA yw ei enw, felly dylen ni ddefnyddio’r enw hwnnw wrth inni siarad amdano.”—Lancelot Shadwell

 Cyhoeddodd Shadwell ei gyfieithiad o Mathew ym 1859, ac yna cyhoeddodd fersiwn oedd yn cynnwys Mathew a Marc ym 1861. Ond daeth ei waith i ben y flwyddyn honno oherwydd bu farw ar Ionawr 11 yn 52 oed. Er hynny, doedd ei ymdrechion ddim yn ofer.

Fredrick Parker

 Daeth cyfieithiad Shadwell o Mathew i sylw dyn busnes o Lundain o’r enw Fredrick Parker (1804-1888). Roedd Parker wedi dechrau cyfieithu’r Testament Newydd pan oedd yn tua 20 oed. Yn wahanol i Shadwell, doedd Parker ddim yn credu yn y drindod. Ysgrifennodd: “Boed i Eglwys gyfan Mab annwyl Duw . . . dderbyn y gwir . . . ac addoli’r unig Dduw Hollalluog Jehofa.” Roedd ef hefyd yn teimlo bod defnyddio’r gair Kyrios yn y Testament Newydd yn drysu’r darllenwr ynglŷn â phwy ydy’r Arglwydd Dduw, a phwy ydy’r Arglwydd Iesu. Felly, roedd y ffaith bod Shadwell wedi trosi’r gair Kyrios fel “Jehofa” mewn rhai llefydd o ddiddordeb mawr i Shadwell.

 Sut roedd Parker yn gwybod cymaint am hyn? Roedd wedi astudio’r iaith Roeg ac wedi ysgrifennu sawl llyfr a thaflen ar ramadeg Groeg. Roedd ef hefyd yn aelod o’r Anglo-Biblical Institute oedd yn gwneud ymchwil ar lawysgrifau’r Beibl er mwyn gwella Beiblau Saesneg. Ym 1842, dechreuodd Parker gyhoeddi ei gyfieithiad cyntaf o’r Testament Newydd mewn sawl rhan ac argraffiad. c

Cyfieithiad o’r Testament Newydd gan Parker (Heinfetter)

Ymdrechion Parker i Adfer Enw Duw

 Dros y blynyddoedd, roedd Parker wedi ysgrifennu am cwestiynau fel: “Pryd mae Kyrios yn cyfeirio at yr Arglwydd Iesu, a phryd mae’n cyfeirio at yr Arglwydd Dduw?” a, “Pam mae Kyrios yn aml yn cael ei drin fel enw yn ramadegol, yn hytrach na theitl?”

 Pan welodd Parker sylwadau Shadwell am Kyrios yn ei gyfieithiad 1859 o Mathew, roedd yn hollol sicr y dylai Kyrios “gael ei gyfieithu fel Jehofa” mewn rhai cyd-destunau. Felly, aeth ati i ddiwygio ei gyfieithiad cyfan o’r Testament Newydd i gynnwys yr enw “Jehofa” lle bynnag y dylai fod o edrych ar ramadeg a chyd-destun y Roeg. Felly, mae argraffiad 1863 Parker, sef A Literal Translation of the New Testament, yn cynnwys enw Duw 187 o weithiau yn y prif destun. Mae’n ymddangos mai dyma oedd y fersiwn Saesneg cyntaf i ddefnyddio’r enw dwyfol drwy gydol yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. d

Tudalen deitl cyfieithiad 1864 Parker o’r Testament Newydd

 Ym 1864, gwnaeth Parker ryddhau A Collation of an English Version of the New Testament . . . With the Authorized English Version. Y rheswm dros gyfuno’r ddau Destament Newydd mewn un cyfrol oedd i ddangos lle a sut roedd ei fersiwn ef yn wahanol i’r llall. e

 Defnyddiodd Parker ambell i adnod yn yr Authorized Version er mwyn dangos pa mor bwysig ydy adfer enw Duw. Un o’r adnodau hynny oedd Rhufeiniaid 10:13, sy’n dweud: “Bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.” Gofynnodd Parker: “O edrych ar yr adnod hon yn yr Authorized English Version, pwy wnaeth ddeall ei bod yn cyfeirio at Jehofa, yn hytrach na’i Fab, ein Harglwydd, Iesu Grist?”

Rhufeiniaid 10:13 o Beibl y Brenin Iago (top) a chyfieithiad 1864 Parker

 Gwariodd Parker filoedd o bunnoedd—oedd yn arian mawr bryd hynny—ar gyhoeddi a dosbarthu ei daflenni, papurau, a llenyddiaeth arall. Un flwyddyn, gwariodd 800 punt, sydd dros 100,000 o bunnoedd ($132,000 UDA) heddiw. Gwnaeth ef hefyd anfon lawer o gopïau o’i gyhoeddiadau i’w ffrindiau a chlerigwyr uchel eu parch er mwyn iddyn nhw allu darllen drostyn nhw am ddim.

 Er bod llenyddiaeth Parker a’i gyfieithiadau o’r Testament Newydd wedi cael eu printio, doedd ’na ddim llawer o gopïau ac roedd rhai ysgolheigion yn eu wfftio. Doedden nhw ddim yn gwerthfawrogi cymaint o ymdrech roedd Parker, Shadwell, ac eraill wedi ei wneud er mwyn adfer enw personol Duw i’r Testament Newydd Saesneg.

 Am fwy o wybodaeth, gwyliwch y fideo 10 munud: Warwick Museum Tours: “The Bible and the Divine Name.”

a Yn Datguddiad 19:1, 3, 4, 6, mae’r ymadrodd “Haleliwia” yn codi, sy’n golygu “Molwch Jah chi bobl!” Mae “Jah” yn dalfyriad o’r enw “Jehofa.”

b Wnaeth Shadwell ddim cyfieithu’r Testament Newydd cyfan. Cafodd help gan Philip Doddridge, Edward Harwood, William Newcome, Edgar Taylor, a Gilbert Wakefield.

c Er mwyn gwahaniaethu rhwng ei waith seciwlar a’i waith ar y Beibl, gwnaeth Parker ddefnyddio’r ffugenw Herman Heinfetter yn ei lenyddiaeth a’i gyfieithiadau o’r Beibl. Mae’r enw hwnnw yn ymddangos sawl gwaith mewn atodiadau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd.

d Ym 1864, gwnaeth Parker ryddhau An English Version of the New Testament sy’n defnyddio enw Duw 186 o weithiau.

e Cyn i Parker ddechrau cyfieithu, roedd llawer o gyfieithiadau o’r Testament Newydd yn Hebraeg wedi cynnwys enw Duw mewn gwahanol adnodau. Hefyd, ym 1795, gwnaeth Johann Jakob Stolz gyhoeddi cyfieithiad Almaeneg sy’n defnyddio enw Duw mwy na 90 gwaith rhwng Mathew a Jwdas.