Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dosbarth yn cael ei gynnal yn ystod un o ysgolion Gilead 2017

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Effaith Fyd-Eang Ysgol Gilead

Effaith Fyd-Eang Ysgol Gilead

RHAGFYR 1, 2020

 Bob blwyddyn, mae nifer o weision llawn-amser arbennig o bedwar ban byd yn cael eu gwahodd i fynychu Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower, a gynhelir yng Nghanolfan Addysg y Watchtower yn Patterson, Efrog Newydd. a Mae’r ysgol hon yn dysgu’r myfyrwyr sut i fod yn fwy effeithiol yn eu haseiniadau gwahanol yng nghyfundrefn Jehofa. Mae’r hyfforddiant hwn yn eu helpu nhw i gryfhau ac i sefydlogi cynulleidfaoedd a changhennau ar draws y byd.

 Mae Gilead yn wir yn ysgol ryngwladol. Er enghraifft, yn nosbarth 147 Gilead, a gynhelir yn 2019, roedd yna 56 myfyriwr o 29 gwlad. Mae’r myfyrwyr eisoes wedi bod mewn rhyw fath o wasanaeth llawn-amser arbennig, fel gweithwyr Bethel, arolygwyr cylchdaith, cenhadon, neu arloeswyr arbennig.

 Mae paratoadau ar gyfer yr ysgol yn dechrau ymhell cyn y wers gyntaf. Er enghraifft, mae Adran Deithio y Pencadlys yn prynu tocynnau hedfan i’r rhai sydd wedi eu gwahodd i fynychu’r ysgol. Ar gyfer dosbarth 147 Gilead, roedd costau teithio’r myfyrwyr tramor yn dod i $1,075 (UDA) yr un ar gyfartaledd. Roedd rhaid i fyfyrwyr o Ynysoedd Solomon gymryd pedair taith awyren i gyrraedd Patterson, ac yna tair arall i fynd adref—gan deithio dros 22,000 o filltiroedd (35,400 km)! Roedd hyn yn costio $2,300 (UDA) ar gyfer pob myfyriwr. Er mwyn arbed arian, mae’r Adran Deithio yn defnyddio rhaglen gyfrifiadurol i gael hyd i docynnau am bris teg. Hyd yn oed ar ôl rhagarchebu tocyn, mae’r rhaglen gyfrifiadurol yn parhau i chwilio am wythnosau neu fisoedd rhag ofn i’r pris ddisgyn. Mae’r Adran Deithio hefyd yn defnyddio milltiroedd hedfan sydd wedi eu cyfrannu i archebu ticedi.

 Mae llawer o’r myfyrwyr angen fisâu i gael mynediad i’r Unol Daleithiau. I’r diben hwn, mae Adran Gyfreithiol y Pencadlys yn eu helpu nhw i gael fisâu myfyrwyr. Mae’r fisâu a’r taliadau cofrestru yn costio $510 (UDA) y myfyriwr ar gyfartaledd.

 Sut rydyn ni’n elwa ar yr hyfforddiant mae’r myfyrwyr yn ei dderbyn? Mae Hendra Gunawan yn gwasanaethu fel henuriad yn Ne-ddwyrain Asia. Yn ei gynulleidfa mae yna gwpl sydd wedi graddio o Gilead. Mae’n dweud: “O’r blaen, doedd ’na ddim arloeswyr llawn-amser yn ein cynulleidfa. Ond ar ôl i’r graddedigion gyrraedd, roedden nhw’n selog a barod i weithio, a gwnaeth hynny ysgogi eraill i ddechrau arloesi. Yn nes ymlaen, gwnaeth un chwaer yn ein cynulleidfa fynychu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas!”

 Mae Sergio Panjaitan yn gweithio gyda graddedigion Gilead mewn Bethel yn Ne-ddwyrain Asia. Mae’n dweud: “Mae’r hyfforddiant maen nhw wedi ei dderbyn yn fendith iddyn nhw, ac mae hefyd wedi dod yn fendith i ni. Dysgon nhw gymaint! Ond yn lle gadael i hynny wneud iddyn nhw sefyll mas, maen nhw’n rhannu beth maen nhw wedi ei ddysgu. Mae hyn yn creu effaith gynyddol wrth inni wedyn annog eraill.”

 Sut mae’r gyfundrefn yn talu am yr ysgol hon? Gan gyfraniadau i’r gwaith byd-eang, sy’n dod yn aml trwy un o’r dulliau ar donate.ps8318.com. Diolch am eich cyfraniadau hael, sy’n cefnogi’r ysgol ryngwladol hon.

a O dan arweiniad Pwyllgor Addysgu Corff Llywodraethol Tystion Jehofa, mae’r Adran Ysgolion Theocrataidd yn datblygu cwricwlwm yr ysgol hon a’i adolygu. Mae athrawon o’r adran honno yn dysgu’r gwersi ynghyd ag athrawon gwadd, gan gynnwys aelodau o’r Corff Llywodraethol.