Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y FFORDD I HAPUSRWYDD

Ffeindio’r Ffordd

Ffeindio’r Ffordd

A YDYCH CHI’N EICH YSTYRIED EICH HUN YN BERSON HAPUS? Os ydych chi, beth sy’n eich gwneud chi’n hapus? Eich teulu, eich gwaith, eich ffydd grefyddol? Efallai eich bod chi’n edrych ymlaen at rywbeth a fydd yn eich gwneud chi’n hapus, fel gorffen yn yr ysgol, cael swydd dda, neu brynu car newydd.

Mae llawer o bobl yn teimlo hapusrwydd pan fyddan nhw’n cyrraedd nod mewn bywyd neu’n cael rhywbeth materol. Ond pa mor hir y mae’r hapusrwydd hwnnw’n para? Yn aml, mae’n fyr ei barhad, a gall hynny fod yn siomedig.

Un disgrifiad o hapusrwydd ydy’r boddhad sy’n dod o fywyd eithaf sefydlog, o emosiynau sy’n amrywio o fodlonrwydd i lawenydd pur, ac o’r dymuniad naturiol i’r cyflwr hwnnw barhau.

Yn ogystal â bod yn gyflwr parhaol, nid pen y daith yw hapusrwydd ond y daith ei hun. Mewn gwirionedd, mae dweud, “Mi fydda i’n hapus pan . . . ” yn gohirio hapusrwydd.

Er mwyn esbonio’r peth, cymharwch hapusrwydd â iechyd da. Sut rydyn ni’n cadw ein hunain yn heini? Rydyn ni’n dilyn llwybr call o ran deiet, ymarfer corff, a’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau yn gyffredinol. Mae’r un peth yn wir am hapusrwydd. Mae’n dod o ddilyn llwybr call mewn bywyd, ac o fyw yn unol ag egwyddorion da.

Pa egwyddorion neu rinweddau sy’n nodweddu’r ffordd i hapusrwydd? Mae rhai yn fwy pwysig nag eraill, ond mae’r rhai canlynol yn hanfodol bwysig:

  • BODLONRWYDD A HAELIONI

  • IECHYD CORFFOROL A DYCNWCH

  • CARIAD

  • MADDEUANT

  • PWRPAS MEWN BYWYD

  • GOBAITH

Mae llyfr sy’n llawn doethineb ac sy’n uchel ei barch yn dweud: “Mae’r rhai sy’n byw yn iawn . . . wedi eu bendithio’n fawr!” (Salm 119:1) Gadewch inni felly roi sylw i’r ffordd honno o fyw.