Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam Mae’r Ateb yn Bwysig?

Pam Mae’r Ateb yn Bwysig?

Ydy hi’n gwneud gwahaniaeth a oes Creawdwr neu ddim? Os ydy’r dystiolaeth yn eich perswadio chi bod ’na Dduw hollalluog, yna efallai byddwch chi eisiau ystyried y dystiolaeth fod y Beibl wedi ei ysbrydoli ganddo. Ac os ydych chi’n trystio beth mae’r Beibl yn ei ddweud, yna gallwch chi elwa yn y ffyrdd canlynol.

Mwy o ystyr i’ch bywyd

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Mae [Duw’n] rhoi glaw ac yn gwneud i gnydau dyfu yn eu tymor—i chi gael digon o fwyd, ac i’ch bywydau fod yn llawn o lawenydd.”—Actau 14:17.

BETH MAE’N EI OLYGU: Mae popeth rydych chi’n ei fwynhau ym myd natur yn anrheg oddi wrth y Creawdwr. Byddwch chi’n gwerthfawrogi’r anrhegion hyn yn fwy byth pan fyddwch chi’n darganfod cymaint mae’r Rhoddwr yn eich caru.

Cyngor da ar gyfer bywyd bob dydd

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Byddi’n deall beth sy’n iawn, yn gytbwys, ac yn deg—ie, popeth sy’n dda.”—Diarhebion 2:9.

BETH MAE’N EI OLYGU: Fel eich Creawdwr, mae Duw yn gwybod beth rydych chi ei angen i fod yn hapus. Drwy ddarllen y Beibl, gallwch chi ddysgu gwersi a all eich helpu chi nawr.

Atebion i’ch cwestiynau

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Byddi’n dod i wybod am Dduw.”—Diarhebion 2:5.

BETH MAE’N EI OLYGU: Gall gwybod bod ’na Greawdwr eich helpu chi i gael atebion i gwestiynau pwysig, fel: Beth ydy pwrpas bywyd? Pam mae ’na gymaint o ddioddefaint? Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n marw? Gallwch chi gael hyd i’r atebion yn y Beibl.

Gobaith ar gyfer y dyfodol

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “‘Fi sy’n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.’”—Jeremeia 29:11.

BETH MAE’N EI OLYGU: Mae Duw yn addo y bydd yn cael gwared ar ddrygioni, dioddefaint, a hyd yn oed marwolaeth yn y dyfodol. Pan fyddwch chi’n trystio addewidion Duw, bydd eich gobaith yn y fath ddyfodol yn eich helpu i wynebu heriau bywyd yn ddewr.