Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam Mae ’Na Gymaint o Gasineb?

Pam Mae ’Na Gymaint o Gasineb?

Pam mae ’na gylch o gasineb mor greulon yn y byd? I wybod y rheswm, mae’n rhaid inni ddeall beth ydy casineb, sut mae’n dechrau, a sut mae’n lledaenu.

Beth Ydy Casineb?

Casineb ydy teimlad cryf a pharhaol eich bod chi wir ddim yn hoffi person neu grŵp o bobl.

SUT MAE CASINEB YN DECHRAU

Mae ’na lawer o resymau pam mae pobl yn dechrau casáu eraill. Yn aml mae pobl yn cael eu casáu, nid oherwydd beth maen nhw’n ei wneud, ond oherwydd pwy ydyn nhw. Mae pobl sy’n teimlo casineb at eraill yn aml yn eu hystyried nhw’n ddrwg, yn beryglus, yn israddol, a’u bod nhw’n achosi problemau ac yn methu newid. Weithiau gall rhyw fath o brofiad drwg fel trais neu anghyfiawnder arwain at deimladau o gasineb.

SUT MAE’N LLEDAENU

Weithiau mae pobl yn casáu eraill heb hyd yn oed cwrdd â nhw. Er enghraifft, gall person gael ei ddylanwadu gan farn ei ffrindiau a’i deulu. Felly, gall y teimlad o gasáu eraill ledaenu’n hawdd mewn grŵp o bobl.

Wrth ddeall sut mae casineb yn lledaenu mor hawdd, gallwn weld pam mae’n cael gafael mor gryf ar gymaint o bobl. Sut bynnag, er mwyn torri’r cylch o gasineb yn y byd, mae’n rhaid inni ddeall beth sydd wrth wraidd casineb. Mae hynny’n cael ei ddatgelu inni yn y Beibl.

MAE’R BEIBL YN DATGELU BETH SYDD WRTH WRAIDD CASINEB

NI WNAETH CASINEB DDECHRAU GYDA PHOBL. Dechreuodd yn y nefoedd pan wnaeth angel, a gafodd yr enw Satan y Diafol, wrthryfela yn erbyn Duw. “Llofrudd oedd e” o’r amser pan wrthryfelodd, ac fel “celwyddgi” a ‘thad pob celwydd’ mae wedi parhau i hyrwyddo casineb ac ymddygiad treisgar. (Ioan 8:44; 1 Ioan 3:11, 12) Mae’r Beibl yn ei ddisgrifio fel un sy’n faleisus, yn wyllt, ac yn greulon.—Job 2:7; Datguddiad 12:9, 12, 17.

MAE POBL AMHERFFAITH YN DUEDDOL O GASÁU. Gwnaeth y dyn cyntaf, Adda, bechu fel gwnaeth Satan. O ganlyniad, mae pob person wedi etifeddu pechod ac amherffeithrwydd. (Rhufeiniaid 5:12) Cafodd mab cyntaf Adda, Cain, ei gymell gan gasineb i ladd ei frawd Abel. (1 Ioan 3:12) Mae’n wir bod llawer o bobl yn dangos cariad a thosturi. Er hynny, oherwydd amherffeithrwydd mae pobl yn dueddol o fod yn hunanol, yn genfigennus, ac yn falch—pethau sy’n bwydo casineb.—2 Timotheus 3:1-5.

MAE ANODDEFGARWCH YN HYBU CASINEB. Mae’r byd rydyn ni’n ei fyw ynddo yn hyrwyddo agweddau ac ymddygiad niweidiol sy’n ychwanegu at gasineb. Mae anoddefgarwch, rhagfarn, geiriau cas, bwlio, a fandaliaeth yn ffynnu achos “mae’r byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg,” Satan y Diafol.—1 Ioan 5:19.

Ond, mae’r Beibl yn gwneud mwy na datgelu beth sydd wrth wraidd casineb. Mae hefyd yn dangos yr ateb.