Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Defnyddion Nhw’r Beibl i Ateb Bob Cwestiwn!

Defnyddion Nhw’r Beibl i Ateb Bob Cwestiwn!
  • GANWYD: 1950

  • GWLAD ENEDIGOL: SBAEN

  • HANES: LLEIAN GATHOLIG

FY NGHEFNDIR:

Pan gefais fy ngeni, roedd fy rhieni yn byw ar fferm fach yng nghefn gwlad Galicia, yng ngogledd-orllewin Sbaen. Fi oedd y pedwerydd plentyn o wyth. Roedden ni’n deulu hapus. Peth cyffredin yn Sbaen bryd hynny oedd i o leiaf un plentyn fynd i hyfforddi i fod yn offeiriad neu’n lleian. Yn ein teulu ni, dyna a wnaeth tri ohonon ni.

Yn 13 oed, dilynais fy chwaer i leiandy ym Madrid. Roedd awyrgylch y lleiandy yn amhersonol ac yn llym. Doedd dim cyfeillgarwch—dim ond rheolau a gweddïau. Yn gynnar yn y bore, roedden ni’n ymgynnull yn y capel i fyfyrio, ond gan amlaf roedd fy meddwl i yn wag. Yn ddiweddarach, roedden ni’n canu emynau ac yn dathlu’r Offeren, i gyd yn Lladin. Roeddwn i’n deall y nesaf peth i ddim ac yn teimlo fy mod i’n bell oddi wrth Dduw. Doedd neb yn cael siarad. Pan welwn i fy chwaer, yr unig beth roedden ni’n cael dweud oedd, “Henffych well buraf Fair.” Roedd y lleianod yn caniatáu inni siarad am hanner awr ar ôl bwyd. Roedd popeth mor wahanol i fy mywyd hapus ar y fferm! Roeddwn i’n teimlo’n unig ac yn crio’n aml.

Er nad oeddwn i’n teimlo’n agos at Dduw, fe wnes i fy addunedau i fod yn lleian yn 17 oed. Mewn gwirionedd, roeddwn i’n gwneud beth roedd pobl yn disgwyl imi ei wneud, ond dechreuais amau a oedd Duw wedi fy ngalw i fod yn lleian. Dywedodd y lleianod fod y rhai sy’n amau yn mynd i uffern! Ond roedd fy amheuon yn parhau. Roeddwn i’n gwybod nad oedd Iesu Grist yn byw bywyd meudwy; yn hytrach, roedd yn cadw’n brysur yn dysgu ac yn helpu eraill. (Mathew 4:23-25) Erbyn imi droi’n 20 oed, nid oeddwn i’n gweld unrhyw reswm da dros aros yn lleian. Er syndod i mi, dywedodd yr uchel fam fy mod i ar groesffordd ac felly y byddai’n well imi adael cyn gynted â phosib. Dw i’n meddwl bod hi’n poeni y byddwn i’n dylanwadu ar eraill. Felly gadewais y lleiandy.

Pan es i adref, roedd fy rhieni yn garedig iawn. Gan nad oedd unrhyw waith yn y pentref, symudais i’r Almaen, lle roedd un o fy mrodyr yn byw. Roedd ef wedi ymuno â phobl eraill o Sbaen a oedd yn aelodau o grŵp Comiwnyddol. Roeddwn i’n teimlo’n gartrefol yng nghwmni pobl oedd yn ymladd dros hawliau gweithwyr a chydraddoldeb i fenywod. Felly fe wnes i droi’n Gomiwnydd, ac yn y pen draw priodais aelod o’r grŵp. Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n gwneud rhywbeth defnyddiol, yn dosbarthu cyhoeddiadau Comiwnyddol ac yn protestio.

Ond fe wnes i golli calon eto. Roeddwn i’n teimlo nad oedd y Comiwnyddion yn byw eu pregeth. Ym 1971, roedd fy amheuon yn cynyddu pan losgodd rhai aelodau ifanc o’r grŵp swyddfa Consol Sbaen yn Frankfurt i brotestio yn erbyn anghyfiawnder y llywodraeth yn Sbaen. Ond doeddwn i ddim yn credu mai hon oedd y ffordd iawn i fynegi dicter.

Ar ôl imi gael fy mhlentyn cyntaf, dywedais wrth fy ngŵr na fyddwn i’n mynd i gyfarfodydd y Comiwnyddion bellach. Roeddwn i’n teimlo’n unig iawn oherwydd nad oedd fy ffrindiau’n dod i fy ngweld i. Dechreuais ofyn beth yw pwrpas bywyd. A oedd yr holl waith i geisio newid y byd yn werth ei wneud?

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Ym 1976, daeth cnoc ar y drws a dyma ddau Dyst Sbaeneg yn cynnig cyhoeddiadau am y Beibl imi. Darllenais y cyhoeddiadau, a phan ddaethon nhw’n ôl gofynnais un cwestiwn ar ôl y llall am ddioddefaint, anghydraddoldeb, ac anghyfiawnder. Roeddwn i’n synnu o weld eu bod nhw’n defnyddio’r Beibl i ateb pob cwestiwn, a chytunais astudio’r Beibl.

I ddechrau, diddordeb academaidd yn unig oedd gen i. Ond newidiodd hynny pan ddechreuon ni fynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Erbyn hynny roedd gynnon ni ddau o blant. Roedd y Tystion yn rhoi lifft i ni i Neuadd y Deyrnas ac yn ein helpu ni i ofalu am y plant yn ystod y cyfarfodydd. Dechreuais gynhesu at y Tystion.

Serch hynny, roedd amheuon am grefydd yn fy mhoeni i o hyd. Penderfynais fynd i weld fy nheulu yn Sbaen. Roedd fy ewythr, a oedd yn offeiriad, yn fy annog i beidio ag astudio’r Beibl. Ond roedd y Tystion lleol yn help mawr. Roedden nhw’n ateb fy nghwestiynau o’r Beibl, yn union fel y Tystion yn yr Almaen. Penderfynais y byddwn yn dechrau astudio’r Beibl eto ar ôl dychwelyd i’r Almaen. Er nad oedd fy ngŵr yn parhau i astudio’r Beibl, fe wnes i ddal ati. Ym 1978, cefais fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

FY MENDITHION:

Mae deall gwirioneddau’r Beibl wedi rhoi pwrpas a chyfeiriad i fy mywyd. Er enghraifft, mae 1 Pedr 3:1-4 yn annog gwragedd i “ymostwng [i’w] gwŷr” ac i feithrin “ysbryd addfwyn a thawel . . . sy’n werthfawr yng ngolwg Duw.” Mae’r egwyddorion hyn wedi fy helpu i lwyddo fel gwraig a mam Gristnogol.

Mae dros 35 mlynedd wedi mynd heibio ers imi ddod yn un o Dystion Jehofa. Dw i’n hapus i fod yn rhan o deulu ysbrydol byd-eang sy’n gwasanaethu Duw, a dw i wrth fy modd yn gweld pedwar o fy mhlant yn gwneud yr un peth.