Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?

PENNOD 37

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?

Ydy’r canlynol yn gywir neu’n anghywir?

Mae’n rhaid i Gristnogion gael eu bedyddio.

□ Gwir

□ Gau

Prif bwrpas bedydd yw dy helpu di i beidio â phechu.

□ Gwir

□ Gau

Mae bedydd yn ei gwneud hi’n bosib iti gael dy achub.

□ Gwir

□ Gau

Os nad wyt ti wedi cael dy fedyddio, fyddi di ddim yn atebol i Dduw am dy ymddygiad.

□ Gwir

□ Gau

Os yw dy ffrindiau yn cael eu bedyddio, mae’n rhaid dy fod ti’n barod hefyd.

□ Gwir

□ Gau

OS WYT ti’n byw yn unol â safonau Duw, yn meithrin perthynas â Duw, ac yn siarad ag eraill am dy ffydd, peth naturiol yw meddwl am fedydd. Ond sut byddi di’n gwybod dy fod ti’n barod? I ateb y cwestiwn hwnnw, gad inni ystyried y datganiadau uchod.

● Mae’n rhaid i Gristnogion gael eu bedyddio.

Gwir. Dywedodd Iesu y dylai ei ddisgyblion gael eu bedyddio. (Mathew 28:19, 20) Yn wir, cafodd Iesu ei hun ei fedyddio. I ddilyn Crist, mae angen iti gael dy fedyddio pan wyt ti’n ddigon aeddfed i benderfynu a phan wyt ti wir eisiau ei wneud.

● Prif bwrpas bedydd yw dy helpu di i beidio â phechu.

Gau. Mae bedydd yn dangos i bawb dy fod ti wedi ymgysegru i Jehofa. Nid yw bedydd yn debyg i gytundeb busnes sy’n dy atal di rhag gwneud pethau yr hoffet ti eu gwneud yn dawel bach. Yn hytrach, byddi di’n cysegru dy fywyd i Jehofa oherwydd dy fod ti’n dymuno byw yn unol â’i safonau.

● Mae bedydd yn ei gwneud hi’n bosib iti gael dy achub.

Gwir. Mae’r Beibl yn dweud bod bedydd yn gam pwysig tuag at gael dy achub. (1 Pedr 3:21) Ond nid yw hyn yn golygu bod bedydd yn debyg i bolisi yswiriant y byddi di’n ei brynu rhag ofn y bydd trychineb yn taro. Byddi di’n cael dy fedyddio oherwydd dy fod ti’n caru Jehofa ac eisiau ei wasanaethu am byth â’th holl galon.—Marc 12:29, 30.

● Os nad wyt ti wedi cael dy fedyddio, fyddi di ddim yn atebol i Dduw am dy ymddygiad.

Gau. Dywed Iago 4:17: “Os dych chi’n gwybod beth ydy’r peth iawn i’w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi’n pechu.” Mae hynny yn wir p’un a wyt ti wedi cael dy fedyddio neu beidio. Felly, os wyt ti’n gwybod beth sy’n iawn, a dy fod ti’n ddigon aeddfed i wybod beth rwyt ti am ei wneud gyda dy fywyd, efallai dyma’r adeg i gael sgwrs am y peth gyda dy rieni neu gyda Christion aeddfed arall. Byddan nhw’n gallu dy helpu di i baratoi ar gyfer cael dy fedyddio.

● Os yw dy ffrindiau yn cael eu bedyddio, mae’n rhaid dy fod ti’n barod hefyd.

Gau. Dylai’r penderfyniad i gael dy fedyddio ddod o wirfodd dy galon di. (Eseia 6:8) Dylet ti gael dy fedyddio dim ond pan wyt ti’n deall yn iawn beth mae bod yn un o Dystion Jehofa yn ei olygu, a phan wyt ti’n sicr dy fod ti’n barod i dderbyn y cyfrifoldeb.—Pregethwr 5:4, 5.

Cam Fydd yn Newid Dy Fywyd

Mae bedydd yn gam sy’n newid dy fywyd a dod â llawer o fendithion. Ond mae hefyd yn golygu bod cyfrifoldeb arnat ti i gadw’r addewid rwyt ti wedi ei wneud i Jehofa.

Wyt ti’n barod i gymryd y cam hwn? Os felly, mae rheswm da iti fod yn hapus. Byddi di’n gallu gwasanaethu Jehofa â’th holl galon a dangos dy gariad tuag ato yn y ffordd rwyt ti’n byw—a dyna’r fraint fwyaf y gall rhywun ei chael.—Mathew 22:36, 37.

ADNOD ALLWEDDOL

Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw—un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo.Rhufeiniaid 12:1.

AWGRYM

Gyda help dy rieni, chwilia am rywun yn y gynulleidfa a fydd yn gallu dy helpu di i dyfu’n ysbrydol.—Actau 16:1-3.

OEDDET TI’N GWYBOD . . . ?

Mae cael dy fedyddio yn rhan hanfodol o’r ‘marc’ sydd yn golygu dy fod ti’n gallu cael dy achub.—Eseciel 9:4-6.

FY NGHYNLLUN I

I weithio tuag at gael fy medyddio, bydda i’n ceisio deall y dysgeidiaethau canlynol yn well: ․․․․․

Y cwestiwn hoffwn i ei ofyn am y pwnc hwn yw ․․․․․

BETH YW DY FARN DI?

● Pam mae cael dy fedyddio yn benderfyniad pwysig?

● Pam mae rhai pobl ifanc yn cael eu bedyddio yn rhy fuan?

● Pam mae rhai pobl ifanc yn dal yn ôl rhag cael eu bedyddio?

[Broliant]

“Roedd cofio fy mod i wedi cael fy medyddio yn fy helpu i wneud penderfyniadau da ac i beidio â dilyn llwybrau a allai fod wedi arwain at drychineb.”—Holly

[Blwch/Llun]

Cwestiynau Cyffredin am Fedydd

Beth mae bedydd yn ei gynrychioli? Mae cael dy drochi ac yna dy godi o’r dŵr yn cynrychioli’r ffaith fod dy hen fywyd hunanol wedi dod i ben, a dy fod ti bellach yn byw i wneud ewyllys Jehofa.

Beth mae cysegru dy fywyd i Jehofa yn ei olygu? Mae’n golygu rhoi dy fywyd i Jehofa ac addo rhoi ei ewyllys ef yn gyntaf. (Mathew 16:24) Cyn iti gael dy fedyddio, mae’n addas iti fynd at Jehofa mewn gweddi a dweud wrtho y byddi di’n ei wasanaethu ef o hyn ymlaen.

Pa bethau y dylet ti fod yn eu gwneud cyn cael dy fedyddio? Dylet ti fod yn byw yn unol â’r egwyddorion yng Ngair Duw a sôn wrth eraill am dy ffydd. Dylet ti fod yn meithrin perthynas agos â Duw drwy weddïo ac astudio ei Air. A dylet ti fod yn gwasanaethu Jehofa o dy wirfodd dy hun—nid oherwydd bod eraill yn rhoi pwysau arnat ti.

A ddylet ti gael dy fedyddio erbyn rhyw oedran penodol? Nid oedran yw’r peth pwysicaf. Eto, dylet ti fod yn ddigon hen—ac yn ddigon aeddfed—i ddeall ystyr ymgysegru.

Beth os wyt ti eisiau cael dy fedyddio ond mae dy rieni yn dweud y dylet ti aros? Efallai y bydden nhw’n hoffi iti gael mwy o brofiad yn gwasanaethu Jehofa. Gwranda arnyn nhw a defnyddio’r amser i ddod yn nes at Jehofa.—1 Samuel 2:26.

[Blwch]

Taflen Waith

A Wyt Ti’n Meddwl am Gael Dy Fedyddio?

Defnyddia’r cwestiynau isod i weld a wyt ti’n barod i gael dy fedyddio. Cofia ddarllen yr adnodau cyn nodi dy atebion.

Ym mha ffyrdd rwyt ti’n dangos dy fod ti’n ymddiried yn Jehofa?Salm 71:5. ․․․․․

Sut rwyt ti wedi dangos dy fod ti’n gallu gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da?Hebreaid 5:14. ․․․․․

Pa mor aml rwyt ti’n gweddïo? ․․․․․

Pa mor benodol yw dy weddïau, a sut maen nhw’n dangos dy fod ti’n caru Jehofa?Salm 17:6. ․․․․․

Rhestra’r pethau yr hoffet ti eu gwneud i wella dy weddïau. ․․․․․

Pa mor aml rwyt ti’n astudio’r Beibl?Josua 1:8. ․․․․․

Pa bethau rwyt ti’n eu hastudio? ․․․․․

Rhestra’r pethau yr hoffet ti eu gwneud i wella’r ffordd rwyt ti’n astudio’r Beibl. ․․․․․

A wyt ti’n fodlon ar dy weinidogaeth? (Enghreifftiau: A elli di esbonio wrth bobl eraill beth mae’r Beibl yn ei ddweud? A wyt ti’n galw’n ôl ar bobl oedd â diddordeb? A wyt ti’n gweithio tuag at allu helpu rhywun arall i astudio’r Beibl?)

□ Ydw □ Nac ydw

A wyt ti’n mynd yn y weinidogaeth hyd yn oed os nad yw dy rieni’n mynd?Actau 5:42.

□ Ydw □ Nac ydw

Rhestra’r pethau yr hoffet ti eu gwneud i wella dy weinidogaeth.2 Timotheus 2:15. ․․․․․

A wyt ti’n mynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd neu’n ysbeidiol?Hebreaid 10:25. ․․․․․

Beth rwyt ti’n ei wneud i gymryd rhan yn y cyfarfodydd? ․․․․․

A wyt ti’n mynd i’r cyfarfodydd hyd yn oed os nad yw dy rieni yn gallu mynd? (os yw dy rieni’n caniatáu hynny)?

□ Ydw □ Nac ydw

A wyt ti’n hoffi gwneud ewyllys Duw?Salm 40:8, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

□ Ydw □ Nac ydw

A elli di roi enghreifftiau o adegau pan wyt ti wedi gwrthod pwysau gan eraill i wneud rhywbeth drwg?Rhufeiniaid 12:2. ․․․․․

Beth rwyt ti’n mynd i’w wneud i gadw dy gariad at Jehofa yn gryf?Jwdas 20, 21. ․․․․․

A fyddet ti’n parhau i wasanaethu Jehofa hyd yn oed petai dy rieni a dy ffrindiau yn stopio?Mathew 10:36, 37.

□ Byddwn □ Na fyddwn

[Llun]

Mae cael dy fedyddio, fel priodi, yn newid dy fywyd. Nid yw’n gam i’w gymryd yn ysgafn