Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD DAU

Y Beibl—Llyfr Oddi Wrth Dduw

Y Beibl—Llyfr Oddi Wrth Dduw
  • Ym mha ffyrdd mae’r Beibl yn wahanol i bob llyfr arall?

  • Sut gall y Beibl eich helpu i ymdopi â phroblemau personol?

  • Pam gallwch chi ymddiried ym mhroffwydoliaethau’r Beibl?

1, 2. Ym mha ffyrdd mae’r Beibl yn rhodd gyffrous oddi wrth Dduw?

YDYCH chi’n cofio derbyn anrheg wych gan ffrind annwyl? Yn fwy na thebyg, roedd y profiad yn un cyffrous ac yn cyffwrdd â’ch calon. Wedi’r cyfan, mae anrheg yn dweud rhywbeth am yr un sydd yn ei rhoi—ei fod ef neu hi yn gwerthfawrogi eich cyfeillgarwch. Mae’n debyg eich bod chi wedi diolch i’ch ffrind am anrheg mor garedig.

2 Anrheg gan Dduw yw’r Beibl, anrheg y gallwn ni fod yn wirioneddol ddiolchgar amdani. Mae’r llyfr unigryw hwn yn datgelu pethau na fyddwn ni byth yn medru darganfod fel arall. Er enghraifft, mae’n sôn am greu sêr y nefoedd, y ddaear, y dyn cyntaf a’r ddynes gyntaf. Mae egwyddorion dibynadwy’r Beibl yn ein helpu ni i ymdopi â phroblemau a phryderon bywyd. Mae’n esbonio sut y bydd Duw yn cyflawni ei fwriad a gwella’r sefyllfa ar y ddaear. Yn bendant, anrheg gyffrous yw’r Beibl!

3. Beth mae cael y Beibl yn rhodd oddi wrth Jehofa yn ei ddweud amdano, a pham mae hyn yn cyffwrdd â’n calonnau ni?

3 Mae’r Beibl hefyd yn anrheg sy’n cyffwrdd â’r galon, gan ei fod yn datgelu rhywbeth am y Rhoddwr, Jehofa Dduw. Mae’r ffaith ei fod wedi rhoi’r fath lyfr inni yn profi ei fod yn dymuno inni ddod i’w adnabod yn dda. Yn wir, gall y Beibl eich helpu i nesáu at Jehofa.

4. Beth sy’n eich taro chi ynglŷn â dosbarthiad y Beibl?

4 Os oes gennych chi gopi o’r Beibl, nid peth anghyffredin mo hynny. Yn gyfan neu’n rhannol, mae’r Beibl wedi ei gyhoeddi mewn tua 2,600 o ieithoedd ac felly mae ar gael i fwy na 90 y cant o boblogaeth y byd. Ar gyfartaledd, mae mwy na miliwn o Feiblau yn cael eu dosbarthu bob wythnos! Mae miloedd o filiynau o Feiblau, yn gyfan neu’n rhannol, wedi eu cyhoeddi. Yn sicr, nid oes dim llyfr tebyg i’r Beibl.

Mae Tystion Jehofa wedi cyfieithu’r Beibl i lawer iawn o ieithoedd

5. Ym mha ffordd y mae’r Beibl ‘wedi ei ysbrydoli gan Dduw’?

5 Ymhellach, mae’r Beibl ‘wedi ei ysbrydoli gan Dduw.’ (Darllenwch 2 Timotheus 3:16.) Sut felly? Ateb y Beibl ydy: “Pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân.” (2 Pedr 1:21) I egluro: Dychmygwch fod dyn busnes yn gofyn i’w ysgrifennydd deipio llythyr. Syniadau a chyfarwyddiadau’r dyn busnes sydd yn y llythyr hwnnw. Felly, ei lythyr ef ydyw ac nid llythyr yr ysgrifennydd. Mewn modd tebyg, neges Duw sydd yn y Beibl, nid neges y dynion a’i hysgrifennodd. Felly, mewn gwirionedd, y Beibl cyfan yw “gair Duw.”—⁠1 Thesaloniaid 2:13.

HARMONI A CHYWIRDEB

6, 7. Pam mae harmoni gwahanol rannau’r Beibl yn drawiadol?

6 Cafodd y Beibl ei ysgrifennu dros gyfnod o 1,600 o flynyddoedd. Bu’r ysgrifenwyr yn byw ar adegau gwahanol a chefndir pob un ohonyn nhw’n wahanol. Roedd rhai ohonyn nhw’n ffermwyr, yn bysgotwyr ac yn fugeiliaid. Proffwydi, barnwyr a brenhinoedd oedd eraill. Meddyg oedd Luc, ysgrifennwr yr Efengyl. Er gwaethaf cefndir amrywiol ei ysgrifenwyr, mae’r Beibl mewn harmoni o’i ddechrau i’w ddiwedd. *

7 Mae llyfr cyntaf y Beibl yn esbonio sut dechreuodd problemau dynolryw. Mae’r llyfr olaf yn dangos y bydd y ddaear gyfan yn cael ei throi’n baradwys, neu’n ardd. Hanes miloedd o flynyddoedd sydd yn y Beibl, i gyd yn ymwneud â datblygiad pwrpas Duw. Mae harmoni’r Beibl yn drawiadol, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan lyfr oddi wrth Dduw.

8. Rhowch enghreifftiau sy’n dangos bod y Beibl yn wyddonol gywir.

8 Mae’r Beibl yn wyddonol gywir. Mae’n cynnwys hyd yn oed wybodaeth oedd ymhell o flaen ei hamser. Er enghraifft, mae llyfr Lefiticus yn cynnwys deddfau ar gyfer yr hen Israel gynt ynghylch cwarantîn a glanweithdra a hynny ar adeg nad oedd y cenhedloedd cyfagos yn gwybod dim am faterion felly. Mewn oes pan oedd syniadau anghywir am siâp y ddaear yn gyffredin, cyfeiriodd y Beibl ati fel cylch, neu sffêr. (Eseia 40:22, ‘cylch y ddaear,’ J. Jenkins a Herbert Morgan) Roedd y Beibl yn gywir pan ddywedodd fod Duw wedi gosod “y ddaear ar ddim.” (Job 26:7) Wrth gwrs, nid gwerslyfr gwyddoniaeth mo’r Beibl. Ond pan fydd yn cyffwrdd â materion gwyddonol, y mae’n gywir. Onid dyma beth y byddwn ni yn ei ddisgwyl gan lyfr oddi wrth Dduw?

9. (a) Sut mae’r Beibl yn dangos ei fod yn hanesyddol gywir a dibynadwy? (b) Beth mae gonestrwydd ei ysgrifenwyr yn ei ddweud wrthoch chi am y Beibl?

9 Mae’r Beibl hefyd yn hanesyddol gywir a dibynadwy. Mae’r hanes sydd ynddo yn benodol. Mae’n cynnwys nid yn unig enwau unigolion ond eu hachau. * Yn gwbl wahanol i haneswyr seciwlar, sydd yn aml yn osgoi sôn am golli brwydrau, roedd ysgrifenwyr y Beibl yn cofnodi hyd yn oed eu ffaeleddau eu hunain a methiannau eu cenedl. Yn llyfr Numeri, er enghraifft, mae’r ysgrifennwr Moses yn cyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad difrifol a bod hynny wedi achosi iddo gael ei geryddu’n llym. (Numeri 20:2-12) Peth prin yw’r fath onestrwydd mewn dogfennau hanesyddol ond mae i’w weld yn y Beibl oherwydd ei fod yn llyfr oddi wrth Dduw.

LLYFR LLAWN DOETHINEB YMARFEROL

10. Pam nad yw’n syndod fod y Beibl yn llyfr ymarferol?

10 Oherwydd bod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw, mae “yn fuddiol i hyfforddi a cheryddu a chywiro.” (2 Timotheus 3:16) Yn wir, llyfr ymarferol yw’r Beibl. Ynddo, gwelwn ddealltwriaeth graff o’r natur ddynol. Nid yw hynny yn syndod oherwydd y Creawdwr, Jehofa Dduw, yw ei awdur! Mae’n deall ein meddyliau a’n hemosiynau yn well na ni ein hunain. Ar ben hynny, mae Jehofa yn gwybod beth sydd ei angen arnon ni er mwyn bod yn hapus. Hefyd, mae’n gwybod pa lwybrau y dylen ni eu hosgoi.

11, 12. (a) Pa bynciau wnaeth Iesu eu trafod yn ei Bregeth ar y Mynydd? (b) Pa faterion ymarferol eraill y mae’r Beibl yn eu hystyried a pham mae ei gyngor yn berthnasol ym mhob oes?

11 Ystyriwch araith Iesu, y Bregeth ar y Mynydd, sydd wedi ei chofnodi ym Mathew penodau 5 hyd 7. Yn yr araith feistrolgar hon, siaradodd Iesu ar nifer o wahanol bynciau, gan gynnwys y ffordd i wir hapusrwydd, sut i gymodi ar ôl ffraeo, sut i weddïo, a’r agwedd gywir at bethau materol. Mae geiriau Iesu yr un mor rymus ac ymarferol heddiw ag yr oedden nhw yn ei adeg ef.

12 Mae rhai egwyddorion y Beibl yn delio gyda bywyd teuluol, arferion gwaith, a’n perthynas ni ag eraill. Mae egwyddorion y Beibl yn berthnasol i bawb, ac mae ei gyngor bob amser yn fuddiol. Fel hyn mae Duw drwy’r proffwyd Eseia yn crynhoi doethineb y Beibl: “Myfi yw’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu er dy les.”—⁠Eseia 48:17.

LLYFR PROFFWYDOLIAETH

Roedd cwymp Babilon wedi ei ragfynegi yn llyfr Eseia yn y Beibl

13. Pa fanylion ynglŷn â Babilon gafodd Eseia ei ysbrydoli gan Jehofa i’w cofnodi?

13 Mae nifer fawr o broffwydoliaethau yn y Beibl, a llawer ohonyn nhw eisoes wedi eu cyflawni. Ystyriwch un enghraifft. Trwy’r proffwyd Eseia, oedd yn byw yn yr wythfed ganrif COG (Cyn yr Oes Gyffredin), rhagfynegodd Jehofa y byddai dinas Babilon yn cael ei dinistrio. (Eseia 13:19; 14:22, 23) Rhoddwyd manylion i ddangos yn union sut y byddai’r ddinas yn cael ei goresgyn. Byddai byddinoedd y gelyn yn peri i afon Babilon sychu a chaniatáu i’r milwyr frasgamu i mewn i’r ddinas heb frwydr. Nid dyna’r hanes i gyd. Mae proffwydoliaeth Eseia hyd yn oed yn rhoi enw’r brenin a fyddai’n gorchfygu Babilon—Cyrus.—⁠Darllenwch Eseia 44:27–45:2.

14, 15. Sut cafodd rhai manylion ym mhroffwydoliaeth Eseia eu cyflawni ynglŷn â Babilon?

14 Ryw ddau gan mlynedd yn ddiweddarach—ar noson 5/6 Hydref 539 COG—roedd byddin yn gwersylla wrth ymyl Babilon. Pwy oedd y pencadfridog? Brenin Persia o’r enw Cyrus. Roedd y llwyfan wedi ei gosod felly ar gyfer cyflawni proffwydoliaeth syfrdanol. Ond a fyddai byddin Cyrus yn meddiannu Babilon heb frwydr, fel y rhagfynegwyd?

15 Ar y noson honno, roedd y Babiloniaid yn dathlu gŵyl ac yn teimlo yn ddiogel y tu mewn i furiau enfawr eu dinas. Yn y cyfamser, yn glyfar iawn, roedd Cyrus wedi ailgyfeirio dyfroedd yr afon a lifai drwy’r ddinas. Mewn dim o dro, roedd dŵr yr afon yn ddigon isel i’w ddynion groesi gwely’r afon a nesáu at furiau’r ddinas. Ond, sut byddai byddin Cyrus yn cyrraedd yr ochr arall i furiau Babilon? Am ryw reswm, y noson honno, roedd drysau’r ddinas, yn esgeulus iawn, wedi eu gadael ar agor!

16. (a) Beth ragfynegodd Eseia am dynged Babilon? (b) Sut daeth proffwydoliaeth Eseia ynglŷn ag anghyfanedd-dra Babilon yn wir?

16 Dyma a gafodd ei broffwydo ynglŷn â Babilon: “Ni chyfanheddir hi o gwbl, na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau; ni phabella’r Arab o’i mewn ac ni chorlanna’r bugail ynddi.” (Eseia 13:20) Fe wnaeth y broffwydoliaeth hon sôn am lawer iawn mwy na chwymp dinas. Dywedodd y byddai Babilon yn anghyfannedd, heb drigolion, am byth. Mae modd i rywun weld tystiolaeth cyflawni’r geiriau hyn. Mae safle anghyfannedd Babilon gynt—tua 50 milltir i’r de o Baghdad, Irac—yn profi bod yr hyn a ddywedodd Jehofa drwy Eseia wedi ei gyflawni: “Ysgubaf hi ag ysgubell distryw.”—⁠Eseia 14:22, 23. *

Adfeilion Babilon

17. Sut mae cyflawniad proffwydoliaethau’r Beibl yn cryfhau ffydd?

17 Yn sicr, mae’r ffaith fod y Beibl yn llyfr proffwydoliaeth ddibynadwy yn cryfhau ffydd. Wedi’r cwbl, os ydy Jehofa wedi cyflawni ei addewidion yn y gorffennol, mae pob rheswm inni fod yn hyderus y bydd yn cyflawni ei addewid ynglŷn â chreu paradwys ar y ddaear. (Darllenwch Numeri 23:19.) Yn wir, mae gennyn ni ‘obaith am fywyd tragwyddol . . . a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r oesoedd.’—⁠Titus 1:2. *

“Y MAE GAIR DUW YN FYW”

18. Pa ddatganiad grymus mae’r apostol Paul yn ei wneud ynghylch “gair Duw”?

18 O’r hyn rydyn ni wedi ei ystyried yn y bennod hon, mae’n gwbl glir fod y Beibl yn llyfr gwirioneddol unigryw. Ond eto, mae llawer mwy i werth y Beibl na’i harmoni mewnol, ei gywirdeb gwyddonol a hanesyddol, ei ddoethineb ymarferol a’i broffwydoliaethau dibynadwy. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae’n llymach na’r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr; ac y mae’n barnu bwriadau a meddyliau’r galon.”—⁠Hebreaid 4:12.

19, 20. (a) Sut gall y Beibl eich helpu chi i edrych yn fanwl arnoch chi eich hun? (b) Sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n ddiolchgar am rodd unigryw Duw, y Beibl?

19 Gall darllen “gair” Duw, sef ei neges yn y Beibl, newid ein bywydau. Fe all ein helpu ni i edrych yn fanwl arnon ni’n hunain a hynny mewn ffordd newydd a gwell. Gallwn honni ein bod ni’n caru Duw, ond bydd ein hymateb i ddysgeidiaeth ei Air ysbrydoledig, y Beibl, yn datgelu ein gwir feddyliau a hyd yn oed wir fwriadau ein calonnau.

20 Yn sicr, llyfr oddi wrth Dduw yw’r Beibl. Dyma lyfr y dylen ni ei ddarllen, ei astudio a’i drysori. Dangoswch eich bod chi’n ddiolchgar am y rhodd ddwyfol hon drwy ddal ati i edrych yn fanwl ar ei gynnwys. Wrth wneud hynny, fe ddewch i ddeall pwrpas Duw ar gyfer dynolryw yn ddyfnach. Yn y bennod nesaf, byddwn yn trafod beth yn union yw’r pwrpas hwnnw a sut bydd yn cael ei gyflawni.

^ Par. 6 Er bod rhai pobl yn honni bod rhannau o’r Beibl yn gwrth-ddweud rhannau eraill, nid oes sail i honiadau o’r fath. Gweler pennod 7 o’r llyfr The Bible—God’s Word or Man’s? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

^ Par. 9 Er enghraifft sylwch ar linach deuluol Iesu fel y mae wedi ei rhestru’n fanwl yn Luc 3:23-38.

^ Par. 16 Am fwy o wybodaeth ar broffwydoliaethau’r Beibl, gweler tudalennau 27-29 o’r llyfryn Llyfr i Bawb, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

^ Par. 17 Un esiampl yn unig o broffwydoliaeth wedi ei chyflawni yw dinistr Babilon. Ymhlith esiamplau eraill mae dinistr Tyrus a Ninefe. (Eseciel 26:1-5; Seffaneia 2:13-15) Yn ogystal, mae proffwydoliaeth Daniel yn rhagfynegi olyniaeth o ymerodraethau a fyddai’n dod i rym ar ôl Babilon gyda Medo-Persia a Groeg yn eu plith. (Daniel 8:5-7, 20-22) Am drafodaeth ar nifer fawr o broffwydoliaethau Meseianaidd a gafodd eu cyflawni yn Iesu Grist, gweler yr erthygl “Iesu Grist—Y Meseia Addawedig” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.