GWERS 01
Sut Gall y Beibl Eich Helpu?
Mae bron pawb yn gofyn cwestiynau am fywyd, dioddefaint, marwolaeth, a’r dyfodol. Ar ben hynny, rydyn ni’n poeni am sut i ennill bywoliaeth neu gael teulu hapus. Mae llawer o bobl yn teimlo bod y Beibl, nid yn unig yn ateb cwestiynau mawr, ond hefyd yn cynnwys cyngor ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd. Ydych chi’n meddwl bod y Beibl yn gallu helpu pobl?
1. Pa fath o gwestiynau mae’r Beibl yn eu hateb?
Mae’r Beibl yn ateb y cwestiynau pwysig hyn: Sut dechreuodd bywyd ar y ddaear? Beth yw pwrpas bywyd? Pam mae pobl yn dioddef? Beth sy’n digwydd ar ôl inni farw? Pam mae cymaint o ryfela er bod pawb eisiau heddwch? Beth fydd yn digwydd i’r ddaear yn y dyfodol? Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ofyn y cwestiynau hyn, ac mae miliynau o bobl yn dweud eu bod nhw’n fodlon iawn ar ei atebion.
2. Sut gall y Beibl ein helpu ni i fwynhau bywyd bob dydd?
Mae’r Beibl yn rhoi cyngor da inni. Er enghraifft, mae’n dysgu pobl sut i gael teulu hapus. Mae’n cynnig cyngor ar sut i ymdopi â straen a sut i fwynhau ein gwaith. Wrth inni drafod y wybodaeth hon gyda’n gilydd, byddwch chi’n gweld beth mae’r Beibl yn ei ddysgu ar y pynciau hyn a llawer o bynciau eraill. Efallai byddwch chi’n cytuno bod yr “holl Ysgrythurau [sef popeth yn y Beibl] . . . yn fuddiol.”—2 Timotheus 3:16.
Dydy’r cyhoeddiad hwn ddim yn cymryd lle’r Beibl. Yn hytrach, mae’n eich helpu chi i edrych ar y Beibl drostoch chi eich hun. Felly rydyn ni’n eich annog chi i ddarllen yr adnodau a restrir yn y gwersi a’u cymharu â’r hyn rydych chi’n ei ddysgu.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch sut mae’r Beibl wedi helpu pobl, sut gallwch chi fwynhau ei ddarllen, a pham mae peth da yw cael help i’w ddeall.
3. Mae’r Beibl yn gallu dangos y ffordd inni
Mae’r Beibl yn debyg i olau llachar. Gallwn ddefnyddio’r Beibl i’n helpu ni i wneud penderfyniadau da ac i weld beth sydd o’n blaenau ni.
Darllenwch Salm 119:105, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Sut roedd awdur y salm hon yn teimlo am y Beibl?
-
Sut rydych chi’n teimlo am y Beibl?
4. Mae’r Beibl yn gallu ateb ein cwestiynau
Cafodd un ddynes atebion yn y Beibl i gwestiynau oedd wedi ei phoeni hi ers blynyddoedd. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
-
Pa fath o gwestiynau oedd gan y ddynes yn y fideo?
-
Sut roedd astudio’r Beibl yn ei helpu hi?
Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ofyn cwestiynau. Darllenwch Mathew 7:7, ac yna trafodwch y canlynol:
-
Pa gwestiynau y bydd y Beibl efallai yn medru eu hateb i chi?
5. Gallwch fwynhau darllen y Beibl
Mae llawer o bobl yn mwynhau darllen y Beibl ac yn cael budd ohono. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
-
Sut roedd y bobl ifanc yn y fideo yn teimlo am ddarllen yn gyffredinol?
-
Pam maen nhw bellach yn teimlo’n wahanol am ddarllen y Beibl?
Mae’r Beibl yn dweud bod y wybodaeth sydd ynddo yn gallu rhoi cysur a gobaith inni. Darllenwch Rhufeiniaid 15:4, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Hoffech chi wybod mwy am yr addewid yn yr adnod hon?
6. Mae eraill yn gallu ein helpu ni i ddeall y Beibl
Yn ogystal â darllen y Beibl ar eu pennau eu hunain, mae llawer wedi cael budd o’i drafod â phobl eraill. Darllenwch Actau 8:26-31, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Sut gallwn ni ddeall y Beibl?—Gweler adnodau 30 a 31.
BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae astudio’r Beibl yn wastraff amser.”
-
Sut byddech chi’n ateb? Pam?
CRYNODEB
Mae’r Beibl yn cynnig cyngor ar gyfer bywyd bob dydd. Mae’n ateb cwestiynau pwysig, ac yn rhoi cysur a gobaith inni.
Adolygu
-
Pa fath o gyngor sydd i’w gael yn y Beibl?
-
Beth yw rhai o’r cwestiynau mae’r Beibl yn eu hateb?
-
Beth hoffech chi ei ddysgu o’r Beibl?
DARGANFOD MWY
Ystyriwch sut mae cyngor y Beibl yn ymarferol heddiw.
“Dysgeidiaethau’r Beibl—Doethineb i Bob Oes” (Y Tŵr Gwylio Rhif 1 2018)
Gwelwch sut mae’r Beibl wedi helpu dyn oedd wedi dioddef yn emosiynol ers ei blentyndod.
Edrychwch ar y cyngor ymarferol yn y Beibl ar gyfer teuluoedd.
“12 Cyfrinach Teuluoedd Llwyddiannus” (Deffrwch! Rhif 2 2018)
Dysgwch sut mae’r Beibl yn cywiro camddealltwriaeth gyffredin ynglŷn â phwy sy’n rheoli’r byd.