Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 24, 2022
MOSAMBÎC

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Lomweg

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Lomweg

Ar Fehefin 19, 2022, gwnaeth y Brawd Patrick Hecker, aelod o Bwyllgor Cangen Mosambîc, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Lomweg. Cafodd y Beibl ei ryddhau mewn ffurf ddigidol yn ystod rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw. Gwnaeth y mwyafrif o gyhoeddwyr mewn cynulleidfaoedd Lomweg eu hiaith wylio’r rhaglen o’u Neuaddau’r Deyrnas, lle derbyniodd bob un oedd yn bresennol gopi printiedig o’r Beibl.

Mae Beiblau yn yr iaith Lomweg wedi bod ar gael ers 1930, ond maen nhw’n ddrud ac yn defnyddio iaith hynafol. Problem arall oedd cywirdeb. Er enghraifft, mewn cyfieithiadau eraill, mae Luc 23:43 yn cael ei throsi: “Mewn gwirionedd, dw i’n dweud wrthot ti heddiw, byddi gyda mi yn y nefoedd.” Mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn dweud yn gywirach: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti heddiw, byddi di gyda mi ym Mharadwys.”

Cyhoeddwyr o Gynulleidfa Mugeba yn dangos eu Beiblau

Dywedodd un o’r cyfieithwyr am y Beibl newydd: “Mae Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Lomweg yn glir ac yn hawdd ei ddarllen. Heb os, bydd y brodyr yn ei chael hi’n haws deall ystyr yr ysgrythurau a bydd hynny yn eu hysgogi i roi ar waith yr hyn maen nhw’n ei ddysgu.”

Rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad newydd hwn yn helpu ein brodyr a’n chwiorydd i ddal ati i edrych ar ôl eu hanghenion ysbrydol eu hunain, ac yn helpu’r rhai maen nhw’n eu cwrdd yn y weinidogaeth.—Mathew 5:3.