Neidio i'r cynnwys

CHWEFROR 22, 2023
NIGERIA

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Ieithoedd Pijin (Gorllewin Affrica) ac Wrhobo

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Ieithoedd Pijin (Gorllewin Affrica) ac Wrhobo

Ar Chwefror 12, 2023, gwnaeth y Brawd Jeffrey Winder, aelod o’r Corff Llywodraethol, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr ieithoedd Pijin (Gorllewin Affrica) ac Wrhobo. Cafodd y rhaglen ei ffrydio i gynulleidfaoedd yn Nigeria, gyda 559,326 o bobl yn ei gwylio. Roedd copïau digidol o’r Beibl ar gael yn syth ar ôl y rhaglen. Bydd copïau printiedig ar gael yn nes ymlaen yn 2023.

Cafodd y gynulleidfa Pijin (Gorllewin Affrica) gyntaf ei ffurfio yn 2015. Erbyn hyn, mae ’na dros 1,100 o gynulleidfaoedd yn Nigeria, gyda llawer o gynulleidfaoedd Pijin (Gorllewin Affrica) mewn gwledydd eraill, fel Lloegr a’r Unol Daleithiau. Yn y gorffennol, roedd y gynulleidfaoedd yn dibynnu yn gyfan gwbl ar fersiwn Saesneg o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd. Dywedodd un brawd: “Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd weithiau i bregethu yn yr iaith Pijin wrth ddefnyddio’r Beibl Saesneg. Ar adegau, doedd y deiliad ddim yn gallu deall pwynt yr adnod roeddwn ni’n ei darllen. Ond heddiw, rydyn ni’n pregethu yn Pijin ac yn darllen y Beibl Pijin hefyd. Oherwydd hyn, bydd pawb yn deall ein neges yn glir.”

Y llyfryn cyntaf i gael ei gyfieithu i’r iaith Wrhobo, Living in Hope of a Righteous New World

Cafodd y gynulleidfa Wrhobo gyntaf ei sefydlu ym 1933. Gwnaeth y brodyr gyfieithu y llyfryn cyntaf, Living in Hope of a Righteous New World, i’r iaith Wrhobo ym 1968. Ers hynny, mae’r nifer o gynulleidfaoedd wedi cynyddu i 103. Mae Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Wrhobo yn defnyddio iaith bob dydd sy’n hawdd ei deall. Bydd y Beibl newydd hwn yn fendith anhygoel i’r gynulleidfaoedd hyn.

Rydyn ni’n gweddïo bydd y cyfieithiadau hyn yn helpu mwy o bobl i gael eu “llenwi â gwybodaeth gywir” am Dduw.—Colosiaid 1:9.