MAWRTH 21, 2023
TOGO
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Cabïeg
Ar Fawrth 12, 2023, gwnaeth y Brawd Wilfrid Sohinto, aelod o bwyllgor cangen Benin, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Cabïeg. Roedd dros 2,959 yn bresennol ar gyfer y cyfarfod a gafodd ei gynnal yn Kara, Togo. a Yn syth ar ôl y cyhoeddiad, cafodd copïau printiedig eu dosbarthu i’r gynulleidfa ac roedd y fersiwn digidol yn barod i’w lawrlwytho.
Cabïeg ydy iaith frodorol tua miliwn o bobl. Mae’r rhan fwyaf o siaradwyr yn byw yng ngogledd Togo, ond mae’r iaith hefyd yn cael ei defnyddio yn Benin a Ghana.
Mae Beiblau eraill yn yr iaith Cabïeg yn bodoli, ond Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd ydy’r un cyntaf i ddefnyddio enw Jehofa trwy gydol y testun. Dim ond un Beibl Cabïeg arall sy’n cynnwys yr enw dwyfol, a dim ond yn Exodus 3:15.
Wrth sôn am ryddhad y Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd, dywedodd un cyfieithydd: “Roedd hi’n amlwg bod Jehofa yn cefnogi’r prosiect i roi Beibl inni. Bydd yn ein helpu ni gyda’r weinidogaeth, a byddwn ni’n mwynhau ei ddefnyddio yn ystod cyfarfodydd y gynulleidfa.”
Llawenhawn â’n brodyr sy’n siarad yr iaith Cabïeg am y rodd werthfawr hon a fydd yn eu helpu nhw i foli enw Jehofa.—Salm 135:1.
a Mae Pwyllgor Cangen Benin yn gofalu am y gwaith pregethu yn Togo.