Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Tystion Jehofa Wedi Newid Rhai o’u Daliadau?

Pam Mae Tystion Jehofa Wedi Newid Rhai o’u Daliadau?

 Y Beibl yw’r unig awdurdod ar gyfer ein daliadau, felly rydyn ni wedi cywiro ein daliadau wrth i ni ddeall yr Ysgrythurau yn well. a

 Mae newidiadau o’r fath yn cyd-fynd â’r egwyddor yn Diarhebion 4:​18: “Mae llwybr y rhai sy’n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes mae’n ganol dydd.” Yn debyg i olygfa sy’n cael ei datgelu’n raddol â golau’r haul, mae Duw yn datgelu ei wirioneddau’n raddol, ac yn ei amser ei hun. (1 Pedr 1:​10-​12) Fel y rhagfynegwyd yn y Beibl, mae’r broses hon wedi cyflymu wrth i’r diwedd ddod.​—Daniel 12:4.

 Ni ddylai’r newidiadau yn ein dealltwriaeth ein synnu. Roedd gan addolwyr Duw yn y gorffennol syniadau a disgwyliadau anghywir hefyd, roedd angen iddyn nhw newid eu ffordd o feddwl.

  •   Cynigiodd Moses ei hun fel gwaredwr i genedl Israel 40 mlynedd cyn amserlen Duw.​—Actau 7:​23-​25, 30, 35.

  •   Methodd yr apostolion ddeall y broffwydoliaeth am farwolaeth ac atgyfodiad y Meseia.​—Eseia 53:​8-​12; Mathew 16:21-​23.

  •   Roedd gan rai Cristnogion cynnar syniadau anghywir fod “Dydd yr Arglwydd eisoes wedi dod.”​—2 Thesaloniaid 2:​1, 2, BCND.

 Felly, cywirodd Duw eu dealltwriaeth, ac rydyn ni’n gweddïo arno barhau i wneud yr un peth i ni.​—Iago 1:5.

a Nid ydyn ni’n ceisio cuddio newidiadau yn ein dealltwriaeth. Mewn gwirionedd, rydyn ni’n eu cofnodi ac yn eu cyhoeddi. Am esiampl, gweler “Eglurhad o’n Daliadau” yn ein cyhoeddiadau ar-lein.