Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Parchu Crefyddau Eraill?

Ydy Tystion Jehofa yn Parchu Crefyddau Eraill?

 Rydyn ni’n dilyn cyngor y Beibl i ‘roi parch i bawb’—beth bynnag yw eu crefydd. (1 Pedr 2:17) Er enghraifft, mewn rhai gwledydd y mae cannoedd o filoedd o Dystion Jehofa. Ond eto, dydyn ni ddim yn pwyso ar wleidyddion na swyddogion i rwystro na gwahardd crefyddau eraill. Dydyn ni ddim yn ceisio creu cyfreithiau sy’n gorfodi pobl i ddilyn ein moesau a’n daliadau crefyddol ni. Yn lle hynny, dangoswn yr un parch at eraill rydyn ni’n gwerthfawrogi ei gael ganddyn nhw.—Mathew 7:12.