Neidio i'r cynnwys

Sut Rydw i’n Dod yn Un o Dystion Jehofa?

Sut Rydw i’n Dod yn Un o Dystion Jehofa?

 Cawn hyd i’r camau angenrheidiol i ddod yn un o Dystion Jehofa yng ngeiriau Iesu yn Mathew 28:19, 20. Mae’r adnodau hynny yn dangos beth mae’n rhaid i unigolyn ei wneud er mwyn dod yn ddisgybl i Grist. Mae hyn yn cynnwys siarad, neu dystiolaethu, am Jehofa.

 Cam 1: Dod yn gyfarwydd â’r hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu. Gorchymyn Iesu i’w ddilynwyr oedd ‘gwnewch ddisgyblion . . . , a’u dysgu.’ (Mathew 28:19, 20) Mae’r gair a gyfieithir “disgybl” yn golygu “un sy’n cael ei ddysgu.” Mae gan y Beibl, yn enwedig ddysgeidiaethau Iesu Grist, wybodaeth sydd ei hangen i gael bywyd hapus a llawn pwrpas. (2 Timotheus 3:16, 17) Rydyn ni’n falch o’ch helpu i ddysgu’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud drwy ein rhaglen o astudio’r Beibl, sydd i’w chael am ddim.​—Mathew 10:​7, 8; 1 Thesaloniaid 2:​13.

 Cam 2: Rhowch ar waith yr hyn rydych yn ei ddysgu. Dywedodd Iesu fod yn rhaid i’r rhai sy’n dysgu “gadw’r holl orchmynion” a roddodd ef. (Mathew 28:20) Golyga hyn fod rhaid i’ch astudiaeth o’r Beibl fod yn fwy nag arferiad deallusol yn unig​—gall hyn ofyn am newidiadau mawr yn eich ffordd o feddwl a’ch ymddygiad. (Actau 10:42; Effesiaid 4:​22-​29; Hebreaid 10:24, 25) Mae’r rhai sy’n cadw gorchmynion Iesu yn cael eu cymell i benderfynu cysegru eu bywydau i Jehofa Dduw.​—Mathew 16:24.

 Cam 3: Cael eich bedyddio. (Mathew 28:19) Mae’r Beibl yn cymharu bedydd â chladdedigaeth. (Cymharwch Rhufeiniaid 6:​2-4) Mae bedydd yn symbol o farw i ffordd flaenorol o fyw a dechrau bywyd newydd. Felly, mae eich bedydd yn arwydd cyhoeddus sy’n cydnabod eich bod chi wedi cwblhau’r ddau gam cyntaf a ddisgrifiodd Iesu a’ch bod yn gofyn i Dduw am gydwybod lân.​—Hebreaid 9:​14; 1 Pedr 3:​21.

Sut byddaf yn gwybod a ydw i’n barod am fedydd neu beidio?

 Siaradwch â henuriaid y gynulleidfa. Fe fyddan nhw’n sgwrsio â chi i weld a ydych chi’n deall yr hyn sydd ynghlwm wrth fedydd, eich bod chi’n rhoi ar waith yr hyn rydych wedi ei ddysgu, a’ch bod chi wedi ymgysegru i Dduw o’ch gwirfodd.​—Actau 20:28; 1 Pedr 5:1-3.

Ydy’r un drefn yn cael ei dilyn ar gyfer plant Tystion Jehofa?

 Ydy. Rydyn ni’n magu ein plant “yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd,” fel y mae’r Beibl yn ei orchymyn. (Effesiaid 6:4) Sut bynnag, wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, mae’n rhaid iddyn nhw eu hunain benderfynu dysgu a derbyn yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu, ac yna ei roi ar waith cyn eu bod nhw’n gymwys ar gyfer bedydd. (Rhufeiniaid 12:2) Yn y pen draw, mae rhaid i bob un wneud ei ddewis ei hun ynglŷn ag addoli.​—Rhufeiniaid 14:12; Galatiaid 6:5.