Neidio i'r cynnwys

Nigeria Wedi Cwblhau 3,000 o Neuaddau’r Deyrnas

Nigeria Wedi Cwblhau 3,000 o Neuaddau’r Deyrnas

Daeth torf o 823 o bobl orfoleddus ynghyd ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2014, yn Neuadd Cynulliad Tystion Jehofa yn Ninas Benin, i ddathlu cyrraedd carreg filltir hanesyddol yn Nigeria. Er 1999, pryd y dechreuodd y drefn o ddarparu Neuaddau’r Deyrnas mewn gwledydd lle mae adnoddau yn brin, mae Tystion Jehofa wedi adeiladu 3,000 o Neuaddau’r Deyrnas yn y wlad honno.

Y wreiddiol

Rhan bwysig o’r cyfarfod oedd crynodeb o hanes y gwaith o ddarparu mannau cyfarfod i gynulleidfaoedd Nigeria er y 1920au. Yn gyntaf fe ddefnyddiwyd cartrefi a neuaddau ar log. Yn ôl y cofnod, y neuadd a adeiladwyd yn ninas Ilesa, tua 1935, oedd y man addoli cynharaf yn Nigeria a oedd wedi ei neilltuo i Dystion Jehofa yn unig. Rhwng 1938 a 1990, bu i’r cynulleidfaoedd gynyddu’n ddirfawr o 14 at 2,681, ac roedd dod o hyd i fan cyfarfod yn heriol i nifer ohonyn nhw. Fe rannwyd ambell neuadd rhwng chwech o gynulleidfaoedd. Mannau eraill, roedd niferoedd y rhai oedd yn bresennol yn ormod i’r neuadd ac o ganlyniad bu rhaid i rai sefyll y tu allan a gwrando’r cyfarfodydd trwy’r ffenestri. Yn y cyfamser roedd nifer o gynulleidfaoedd dal yn ymgynnull mewn cartrefi preifat ac ysgolion.

Y newydd

Ym 1990 dechreuodd swyddfa gangen Tystion Jehofa gefnogi’r gwaith o adeiladu neuaddau gan ddarparu benthyciadau drwy Gronfa Neuaddau’r Deyrnas. Erbyn 1997, roedd y Pwyllgorau Adeiladu Rhanbarthol wedi helpu 105 o gynulleidfaoedd i adeiladu neu ailwampio’u neuaddau. Rhwng 1997 a 1999 fe godwyd 13 o neuaddau, ac ar gyfartaledd fe’u cwblhawyd o fewn 7 i 15 o ddyddiau.

Er i’r gwaith adeiladu gyflymu, fe roedd yn annigonol i gydredeg â’r tyfiant yn niferoedd Tystion Jehofa yn Nigeria. Yn ôl amcan swyddfa’r gangen yn Ebrill 1998, roedd eisiau 1,114 o Neuaddau’r Deyrnas ar y wlad.

Siaradodd Don Trost, aelod o Bwyllgor Cangen Nigeria, yn y cyfarfod arbennig yn Ninas Benin. Fe ddywedodd wrth y gynulleidfa: “Roedd hi’n gamp aruthrol! ‘Sut ar y ddaear mae dod â’r dasg i ben?’ oedd ein cwestiwn.” Fe glywson ni’r ateb yn cychwyn 1999 wrth i Grwpiau Adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, o chwech i wyth aelod yr un, ddod yn gefn i gynulleidfaoedd drwy’r wlad. Gan ddefnyddio darluniadau wedi’u symleiddio, ar gyfartaledd maen nhw wedi codi 17 o neuaddau bob mis yn ystod yr 14 o flynyddoedd diwethaf.

Wedi iddo ganmol y gynulleidfa am yr hyn y cyflawnwyd, cyfeiriodd y Brawd Trost at yr hyn sydd dal angen ei wneud. Yn ystod 2013, roedd cynnydd o 8,000 yn nifer Tystion Jehofa yn Nigeria. “Fel ymateb i’r tyfiant sydd i ddod, bydd angen 100 o Neuaddau’r Deyrnas yn flynyddol” meddai. Yn 2013 roedd 351,000 o Dystion a dros 5,700 o gynulleidfaoedd yn Nigeria.