Neidio i'r cynnwys

Ai yn Eich Calon y Mae Teyrnas Dduw?

Ai yn Eich Calon y Mae Teyrnas Dduw?

Ateb y Beibl

 Nage, nid cyflwr yng nghalonnau Cristnogion yw Teyrnas Dduw. a Mae’r Beibl yn dangos lleoliad y Deyrnas drwy ei galw’n ‘deyrnas nefoedd.’ (Mathew 4:17, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Ystyriwch sut mae’r Beibl yn dangos mai llywodraeth sy’n rheoli o’r nefoedd yw’r Deyrnas.

  •   Mae gan Deyrnas Dduw lywodraethwyr, dinasyddion, deddfau ac awdurdod i sefydlu ewyllys Duw yn y nefoedd ac ar y ddaear.—Mathew 6:10; Datguddiad 20:6.

  •   Bydd Teyrnas Dduw yn llywodraethu dros “bawb o bob gwlad ac iaith” ar y ddaear. (Daniel 7:13,14) Mae ei hawdurdod yn dod, nid o’r bobl, ond oddi wrth Dduw ei hun.—Salm 2:4-6; Eseia 9:7.

  •   Dywedodd Iesu wrth ei apostolion y bydden nhw’n ymuno ag ef yn Nheyrnas nefoedd i “eistedd ar orseddau.”—Luc 22:28, 30.

  •   Mae gan y Deyrnas elynion, ond fe fydd yn eu dinistrio.—Salm 2:1, 2, 8, 9; 110:1, 2; 1 Corinthiaid 15:25, 26.

 Mae rhai’n credu bod y Deyrnas yn eich calon pan fyddwch chi’n gwrando ar Dduw. Ond nid dyna beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Sut bynnag, mae’r Beibl yn dangos y dylai’r “neges am y Deyrnas” neu’r “newyddion da am deyrnasiad Duw,” ddylanwadu ar ein calonnau.—Mathew 13:19; 24:14.

Beth yw ystyr y geiriau “Wele; teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae”?

 Mae rhai pobl wedi drysu o weld beth mae rhai cyfieithiadau yn ei ddweud am y Deyrnas yn Luc 17:21. Er enghraifft, mae’r Beibl Cysegr-lân yn dweud: “Wele; teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae.” Er mwyn deall yr adnod hon yn iawn, mae’n bwysig inni ystyried y cyd-destun.

Nid oedd Teyrnas Dduw yng nghalonnau ystyfnig a chreulon y rhai oedd yn gwrthwynebu Iesu

 Roedd Iesu yn siarad â grŵp o arweinwyr crefyddol, y Phariseaid, a oedd yn ei wrthwynebu yn ffyrnig ac a gafodd ran yn y cynllun i’w ladd. (Mathew 12:14; Luc 17:20) A yw’n rhesymol inni gredu mai cyflwr yn eu calonnau drwg nhwythau oedd y Deyrnas? Dywedodd Iesu eu bod nhw’n “llawn rhagrith a drygioni” ar y tu mewn.—Mathew 23:27,28.

 Mae cyfieithiadau eraill yn gwneud geiriau Iesu yn Luc 17:21 yn glir. Er enghraifft, dywed y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig: “Y mae teyrnas Dduw yn eich plith chwi.” (Ni biau’r italeiddio) Roedd Teyrnas nefoedd “ymhlith” y Phariseaid yn yr ystyr bod Iesu, yr un yr oedd Duw wedi ei ddewis i fod yn Frenin ar y Deyrnas, yn sefyll o’u blaenau.—Luc 1:32, 33.

a Mae llawer o eglwysi yn dysgu bod Teyrnas Dduw y tu mewn i bobl, neu yn eu calonnau. Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau, dywedodd y Southern Baptist Convention fod Teyrnas Dduw, yn rhannol, yn golygu “teyrnasiad Duw yng nghalon ac ym mywyd yr unigolyn.” Yn ei lyfr, Jesus of Nazareth, dywedodd y Pab Bened XVI fod “teyrnas Dduw yn dod drwy gyfrwng calonnau sy’n gwrando ar Dduw.”