Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 62

Y Gân Newydd

Y Gân Newydd

(Salm 98)

  1. 1. Canwch gân sy’n newydd! Canwch glod Jehofa Dduw!

    Mawr yw ei weithredoedd, Duw buddugoliaeth yw.

    Canwch fawl i’w allu! Braich Jehofa, nerthol yw.

    Ffyddlon a chariadus

    A theg yw’n cyfiawn Duw.

    (CYTGAN)

    Canwch! Dewch!

    Rhowch floedd a llawenhewch!

    Canwch fawl

    I Dduw, ein Brenin mawr!

  2. 2. Chi, breswylwyr daear, molwch enw’r Brenin mawr!

    Canwch eich gorfoledd i’w anrhydeddu’n fawr!

    Clywch! Mae tyrfa fawr yn canu, awn, ymunwn ni,

    Telyn, corn, ac utgorn

    Mewn hyfryd harmoni.

    (CYTGAN)

    Canwch! Dewch!

    Rhowch floedd a llawenhewch!

    Canwch fawl

    I Dduw, ein Brenin mawr!

  3. 3. Canu mae’r afonydd a dyfnderoedd mawr y môr.

    Mynydd, llyn, a dyffryn, a ganant fawl yr Iôr.

    Canu mae y Cread, er gogoniant Duw, drwy’r byd.

    Seiniwch floedd yn uchel!

    Dewch, bawb drwy’r byd i gyd!

    (CYTGAN)

    Canwch! Dewch!

    Rhowch floedd a llawenhewch!

    Canwch fawl

    I Dduw, ein Brenin mawr!

(Gweler hefyd Salm 96:1; 149:1; Esei. 42:10.)