Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 63

Tystion Jehofa ’Dyn Ni!

Tystion Jehofa ’Dyn Ni!

(Eseia 43:10-12)

  1. 1. Nid gwaith dwylo dynol yw’r

    Hollalluog Arglwydd Dduw.

    Nid o goed a charreg

    Naddwyd Ef sy’n fyw.

    Ni all duwiau pren ragddweud

    Fel y mae’r gwir Dduw yn gwneud.

    Chi dduwiau dall, a byddar eich clust,

    Lle mae’ch tystiolaeth? Lle mae’ch tyst?

    (CYTGAN)

    Tystion ydym i’r gwir Dduw;

    Duw gwir broffwydoliaeth yw.

    Tystion ’dyn ni i’w allu a’i fri.

    Tystion Jehofa ’dyn ni!

  2. 2. Hysbysebwn enw Duw.

    Dwyn ei enw, gwir fraint yw.

    Tystiolaethwn gyda’n

    Llais a’n ffordd o fyw.

    Mae’r gwirionedd yn rhyddhau

    Rhai sydd i gau dduwiau’n gaeth.

    Wrth ddysgu mwy, pregethant yn llon

    A dod i ganu’r gytgan hon:

    (CYTGAN)

    Tystion ydym i’r gwir Dduw;

    Duw gwir broffwydoliaeth yw.

    Tystion ’dyn ni i’w allu a’i fri.

    Tystion Jehofa ’dyn ni!

  3. 3. Wrth glodfori enw Duw,

    Rhybudd rown i bawb a glyw

    Sydd yn gwrthod newid

    I ffordd well o fyw.

    Y mae’r rhai sy’n ufuddhau

    I’r gwir Dduw yn llawenhau—

    Heddwch ysbrydol sy’n llenwi’n byw

    Wrth fod yn un o Dystion Duw.

    (CYTGAN)

    Tystion ydym i’r gwir Dduw;

    Duw gwir broffwydoliaeth yw.

    Tystion ’dyn ni i’w allu a’i fri.

    Tystion Jehofa ’dyn ni!

(Gweler hefyd Esei. 37:19; 55:11; Esec. 3:19.)