Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

JenkoAtaman/stock.adobe.com

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Rhesymau i Obeithio yn 2023—Beth mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Rhesymau i Obeithio yn 2023—Beth mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Wrth i 2023 ddechrau, rydyn ni i gyd yn gobeithio am y gorau i ni’n hunain a’n teuluoedd. Ond pam gallwn ni fod yn optimistig am y dyfodol?

Mae’r Beibl yn rhoi gobaith

 Mae ’na newyddion da yn y Beibl. Mae’n addo y bydd y problemau rydyn ni’n eu hwynebu nawr ond yn para dros dro ac yn dod i ben cyn bo hir. Cafodd y Beibl hyd yn oed ei ‘ysgrifennu i’n dysgu ni, ac mae gynnon ni obaith oherwydd yr anogaeth mae’r Ysgrythurau’n ei rhoi inni.’Rhufeiniaid 15:4.

Gobaith all eich helpu chi nawr

 Mae gobaith y Beibl “fel angor i’n bywydau.” (Hebreaid 6:19, troednodyn) Gall y gobaith hwnnw ein sefydlogi ni am ei fod yn ein helpu ni i ddelio â’n problemau, i gadw agwedd bositif, ac i gael hyd i hapusrwydd go iawn. Er enghraifft:

Cryfhewch eich gobaith

 Mae llawer o bobl yn gobeithio y bydd pethau da yn digwydd, ond allan nhw ddim fod yn sicr y bydd eu gobeithion yn dod yn wir. Ond mae addewidion y Beibl yn wahanol. Pam? Oherwydd maen nhw’n dod oddi wrth Jehofa Dduw a ei hun, “sydd ddim yn gallu dweud celwydd.” (Titus 1:2) Dim ond Jehofa all wireddu ei holl addewidion; mae ganddo’r rym i wneud “beth bynnag mae e eisiau.”—Salm 135:5, 6.

 Rydyn ni’n estyn croeso cynnes ichi elwa o gobaith dibynadwy y Beibl. Byddwch chi’n ei drystio’n fwy drwy “chwilio’r Ysgrythurau yn ofalus.” (Actau 17:11) Beth am drio ein cwrs astudio’r Beibl am ddim a chychwyn 2023 yn llawn gobaith!

a Jehofa ydy enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.