Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 14

Sut Gallwn Ni Addoli Mewn Ffordd Sy’n Plesio Duw?

Sut Gallwn Ni Addoli Mewn Ffordd Sy’n Plesio Duw?

Fel y gwelon ni yn y wers flaenorol, nid yw pob crefydd yn plesio Duw. Sut bynnag, gallwn addoli ein Creawdwr mewn ffordd sy’n ei blesio. Beth ydy’r “math o addoliad” sy’n plesio Duw? (Iago 1:27) Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud.

1. Ar beth dylen ni seilio ein crefydd?

Dylen ni seilio ein crefydd ar y Beibl. Dywedodd Iesu wrth Dduw: “Dy air di ydy’r gwir.” (Ioan 17:17) Gair ysbrydoledig Duw yw’r Beibl. Ond mae rhai crefyddau yn anwybyddu’r gwirioneddau sydd ynddo ac yn rhoi traddodiadau a syniadau dynol yn eu lle. Ond nid yw’r rhai sy’n “diystyru gorchymyn Duw” yn plesio Duw. (Darllenwch Marc 7:9.) Ar y llaw arall, mae Duw yn hapus o weld pobl sy’n glynu wrth y Beibl ac yn dilyn ei gyngor.

2. Sut dylen ni addoli Jehofa?

Dylen ni addoli Jehofa yn unig, gan mai ef yw ein Creawdwr. (Datguddiad 4:11) Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni ei garu a’i addoli heb ddefnyddio delwau neu eilunod.—Darllenwch Eseia 42:8.

Dylen ni addoli mewn ffordd sy’n “sanctaidd ac yn dderbyniol” i Jehofa. (Rhufeiniaid 12:1) Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni fyw yn ôl ei safonau moesol ef. Er enghraifft, bydd y rhai sy’n caru Jehofa yn parchu ac yn cadw at ei safonau ar gyfer priodas. Ac maen nhw’n osgoi arferion niweidiol fel defnyddio tybaco neu gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol. a

3. Pam dylen ni addoli Jehofa gyda’n cyd-gredinwyr?

Yn ein cyfarfodydd wythnosol, cawn ni gyfle i foli Jehofa “o flaen y gynulleidfa.” (Salm 111:1, 2) Un ffordd o wneud hynny yw drwy ganu mawl i Dduw. (Darllenwch Salm 104:33.) Mae Jehofa yn gofyn i ni fynychu’r cyfarfodydd oherwydd ei fod yn ein caru ni ac yn gwybod y byddan nhw yn ein helpu ni i fwynhau bywyd am byth. Yn y cyfarfodydd, rydyn ni’n calonogi ein gilydd.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch pam nad yw defnyddio delwau wrth addoli yn plesio Jehofa. Dysgwch am rai ffyrdd pwysig y gallwn ni roi clod i Dduw.

4. Ni ddylwn ni ddefnyddio delwau wrth addoli

Sut rydyn ni’n gwybod na fyddai hyn yn plesio Duw? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

  • Beth ddigwyddodd pan geisiodd rhai o bobl Dduw defnyddio delw i’w addoli?

Mae rhai pobl yn teimlo bod delwau yn dod â nhw’n nes at Dduw. Ond a allai hyn wneud i Dduw ymbellhau mewn gwirionedd? Darllenwch Exodus 20:4-6 a Salm 106:35, 36, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa ddelwau neu wrthrychau eraill rydych chi wedi gweld pobl yn eu defnyddio i addoli Duw?

  • Sut mae Jehofa yn teimlo am ddefnyddio delwau?

  • Sut rydych chi’n teimlo am ddefnyddio delwau?

5. Mae addoli Jehofa yn unig yn ein rhyddhau rhag syniadau anghywir

Gwelwch sut mae addoli Jehofa yn iawn yn ein rhyddhau rhag syniadau anghywir. Gwyliwch y FIDEO.

Darllenwch Salm 91:14, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth mae Jehofa yn ei addo os ydyn ni’n dangos ein bod ni’n ei garu drwy ei addoli ef yn unig?

6. Rydyn ni’n addoli Duw yn y cyfarfodydd

Rydyn ni’n moli Jehofa ac yn calonogi ein gilydd drwy ganu a chymryd rhan yn y cyfarfodydd. Darllenwch Salm 22:​22, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ydych chi wedi mwynhau clywed sylwadau pobl eraill yn y cyfarfodydd?

  • Hoffech chi baratoi i roi ateb yn y cyfarfod?

7. Mae Jehofa wrth ei fodd o’n gweld ni’n rhannu’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu

Gallwn rannu gwirioneddau’r Beibl mewn sawl ffordd. Darllenwch Salm 9:1 a 34:1, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pa wirionedd o’r Beibl hoffech chi ei rannu â rhywun arall?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Does dim ots sut rydyn ni’n addoli Duw, cyn belled â’n bod ni’n ddiffuant.”

  • Beth rydych chi’n ei feddwl?

CRYNODEB

Rydyn ni’n plesio’r Creawdwr drwy addoli ef yn unig, gan ei foli yn y cyfarfodydd, a rhannu beth rydyn ni’n ei ddysgu â phobl eraill.

Adolygu

  • Lle gallwn ni ddysgu sut i addoli Duw yn iawn?

  • Pam dylen ni addoli Jehofa yn unig?

  • Pam dylen ni addoli gyda phobl eraill sydd eisiau plesio Duw?

Nod

DARGANFOD MWY

Yn y stori “Dydw i Ddim Bellach yn Gaeth i Eilunod” dysgwch sut mae un ddynes wedi stopio addoli eilunod.

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2011)

Dysgwch beth fydd yn eich helpu chi i gymryd rhan yn y cyfarfodydd.

“Mola Jehofa yn y Gynulleidfa” (Y Tŵr Gwylio, Ionawr 2019)

Gwelwch sut roedd y cyfarfodydd yn helpu un dyn ifanc, er nad oedd yn hawdd iddo fynychu.

Gwnaeth Jehofa Ofalu Amdana I (3:07)

Mae llawer o bobl yn cysylltu Cristnogaeth â’r groes, ond a ddylen ni ddefnyddio croes i addoli Duw?

“Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Defnyddio’r Groes yn eu Haddoliad?” (Erthygl ar jw.org)

a Trafodwn y pynciau hyn mewn gwersi maes o law