Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 15

Pwy Yw Iesu?

Pwy Yw Iesu?

Iesu yw un o’r bobl fwyaf enwog yn hanes y byd. Ond eto, mae llawer yn gwybod fawr ddim amdano ar wahân i’w enw. Ac mae cryn dipyn o anghytuno ynglŷn â phwy oedd Iesu. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud amdano?

1. Pwy yw Iesu?

Ysbryd pwerus sy’n byw yn y nefoedd yw Iesu. Cafodd ei greu gan Jehofa Dduw cyn popeth arall. Dyna pam mae’r Beibl yn dweud mai ef yw “cyntaf-anedig yr holl greadigaeth.” (Colosiaid 1:15) Mae’n cyfeirio at Iesu fel “unig-anedig Fab” Duw, oherwydd Iesu yw’r unig un i gael ei greu gan Jehofa ei hun. (Ioan 3:16) Roedd Iesu yn cydweithio’n agos â’i Dad, Jehofa, ac yn ei helpu i greu pob peth arall. (Darllenwch Diarhebion 8:30.) Mae’r berthynas rhwng Iesu a Jehofa yn dal yn agos iawn. Ef yw llefarydd ffyddlon Duw, “y Gair,” sy’n cyfleu negeseuon a chyfarwyddiadau Duw i eraill.—Ioan 1:14.

2. Pam daeth Iesu i’r ddaear?

Tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl, defnyddiodd Jehofa yr ysbryd glân i drosglwyddo bywyd Iesu o’r nefoedd i groth morwyn o’r enw Mair. Dyna sut cafodd Iesu ei eni yn blentyn dynol. (Darllenwch Luc 1:34, 35.) Iesu oedd y Meseia, neu’r Crist, yr oedd Duw wedi addo ei anfon i achub y ddynoliaeth. a Gan fod Iesu wedi cyflawni’r holl broffwydoliaethau am y Meseia yn y Beibl, roedd pobl yn gwybod mai ef oedd y “Crist, Mab y Duw byw.”Mathew 16:16.

3. Ble mae Iesu heddiw?

Ar ôl i fywyd Iesu ar y ddaear ddod i ben, cafodd ei atgyfodi fel angel ac aeth yn ôl i’r nefoedd. Yno, “gwnaeth Duw ei ddyrchafu i safle uwch.” (Philipiaid 2:9) Heddiw, mae gan Iesu awdurdod mawr, yn ail i neb ond Jehofa ei hun.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch fwy am bwy yw Iesu a pham mae’n bwysig inni ddysgu amdano.

4. Nid y Duw Hollalluog yw Iesu

Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu’n ysbryd pwerus yn y nef, ond er hynny y mae’n dal yn ufudd i’w Dduw a’i Dad, Jehofa. Pam gallwn ni ddweud hynny? Gwyliwch y FIDEO i weld beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am sut mae Iesu yn wahanol i’r Duw Hollalluog.

Mae’r adnodau canlynol yn ein helpu ni i ddeall y berthynas rhwng Jehofa ac Iesu. Darllenwch yr adnodau, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

Darllenwch Luc 1:30-32.

  • Sut disgrifiodd yr angel y berthynas rhwng Iesu a Jehofa Dduw, “y Goruchaf”?

Darllenwch Mathew 3:16, 17.

  • Pan fedyddiwyd Iesu, beth ddywedodd y llais o’r nef?

  • Pwy rydych chi’n meddwl oedd yn siarad?

Darllenwch Ioan 14:28.

  • Pwy yw’r hynaf, a phwy sydd â mwy o awdurdod? Tad neu fab?

  • Beth roedd Iesu yn ei olygu pan alwodd Jehofa yn Dad iddo?

Darllenwch Ioan 12:49.

  • Ydy Iesu yn credu ei fod ef a’i Dad yn un person? Beth rydych chi’n ei feddwl?

5. Beth brofodd mai Iesu oedd y Meseia?

Mae’r Beibl yn llawn proffwydoliaethau a fyddai’n helpu pobl i adnabod y Meseia—yr un roedd Duw wedi ei ddewis i achub dynolryw. Gwyliwch y FIDEO i ddysgu am rai o’r proffwydoliaethau a gyflawnodd Iesu pan ddaeth i’r ddaear.

Darllenwch y proffwydoliaethau hyn ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

Darllenwch Micha 5:2 i weld lle byddai’r Meseia’n cael ei eni. b

  • A wnaeth genedigaeth Iesu gyflawni’r broffwydoliaeth hon?—Mathew 2:1.

Darllenwch Salm 34:20 a Sechareia 12:10 i weld beth ragfynegodd y Beibl am farwolaeth y Meseia.

  • A ddaeth y proffwydoliaethau hyn yn wir?—Ioan 19:33-37.

  • Ydych chi’n credu y gallai Iesu fod wedi dylanwadu ar gyflawniad y proffwydoliaethau hyn?

  • Beth mae hyn yn ei brofi am Iesu?

6. Mae dysgu am Iesu yn ein helpu

Mae’r Beibl yn dweud ei bod yn bwysig iawn inni ddysgu am Iesu a’i rôl ym mhwrpas Duw. Darllenwch Ioan 14:6 a 17:​3, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae’n hanfodol inni ddysgu am Iesu?

Agorodd Iesu’r ffordd inni ddod yn ffrind i Dduw. Dysgodd y gwir am Jehofa, a gallwn gael bywyd tragwyddol trwyddo ef

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dydy Tystion Jehofa ddim yn credu yn Iesu.”

  • Sut byddech chi’n ateb?

CRYNODEB

Ysbryd pwerus yw Iesu. Mab Duw a’r Meseia ydyw.

Adolygu

  • Pam mae’r Beibl yn dweud mai Iesu yw “cyntaf-anedig yr holl greadigaeth”?

  • Beth roedd Iesu yn ei wneud cyn iddo ddod i’r ddaear?

  • Sut rydyn ni’n gwybod mai Iesu yw’r Meseia?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch a yw’r Beibl yn dweud bod Duw wedi dod yn Dad i Iesu yn yr un ffordd ag y mae bodau dynol yn cael plant.

“Pam Mae Iesu’n Cael Ei Alw’n Fab Duw?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch pam nad yw’r Drindod yn ddysgeidiaeth Feiblaidd.

“Ai Iesu Yw Duw?” (Y Tŵr Gwylio, Ebrill 1, 2009)

Darllenwch am sut newidiodd bywyd un ddynes ar ôl iddi edrych ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud am Iesu.

“Dynes Iddewig yn Esbonio Pam Wnaeth Hi Archwilio Ei Ffydd” (Deffrwch!, Mai 2013)

a Bydd gwersi 26 a 27 yn trafod pam mae angen achub y ddynoliaeth a sut mae Iesu yn ein hachub.

b Gweler Ôl-nodyn 2 i weld proffwydoliaeth a ragfynegodd yn union pryd byddai Iesu yn ymddangos ar y ddaear.