Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 6

Ffyddlondeb Job

Ffyddlondeb Job

Satan yn cyhuddo Job, ond mae’n aros yn ffyddlon i Jehofa

PETAI rhywun yn cael ei brofi i’r eithaf, a fyddai’n aros yn ffyddlon i Dduw mewn sefyllfa lle nad oes manteision amlwg i’w cael o fod yn ufudd? Mae hanes Job yn codi’r cwestiwn hwnnw, ac yn ei ateb.

Pan oedd yr Israeliaid yn dal yn yr Aifft, roedd Job, perthynas i Abraham, yn byw mewn gwlad a elwir heddiw yn Arabia. Bryd hynny, daeth yr angylion at ei gilydd o flaen Duw yn y nef, ac roedd Satan yn eu plith. Dywedodd Jehofa wrth yr angylion fod ganddo hyder mawr yn ei was teyrngar Job. Yn wir, fe ddywedodd Jehofa nad oedd neb ar y ddaear mor ffyddlon ac uniawn â Job. Ond honnodd Satan fod Job yn gwasanaethu Duw oherwydd bod Duw yn ei fendithio ac yn ei warchod. Honnodd Satan y byddai Job yn melltithio Duw petai’n colli popeth oedd ganddo.

Caniataodd Jehofa i Satan brofi Job. Oherwydd yr hyn wnaeth Satan, collodd Job ei gyfoeth, ei blant, a’i iechyd. Doedd Job ddim yn gwybod mai Satan oedd y tu ôl i hyn i gyd, ac ni fedrai ddeall pam roedd Duw yn gadael iddo ddioddef gymaint. Ond, ni wnaeth Job erioed droi yn erbyn Duw.

Daeth tri chyfaill ffals i weld Job. Mewn cyfres o areithiau sy’n llenwi tudalennau yn llyfr Job, roedden nhw’n dadlau bod Duw yn cosbi Job am bechodau cudd. Aethon nhw mor bell â honni nad yw Duw yn cael pleser yn ei weision nac yn ymddiried ynddyn nhw. Gwrthododd Job eu dadl afresymol, a datgan yn hyderus y byddai’n aros yn ffyddlon hyd angau!

Ond, roedd Job yn poeni’n ormodol am ei gyfiawnhau ei hun. Nesaf, siaradodd y dyn ifanc Elihu. Ceryddodd Job am beidio â gweld bod cyfiawnhau sofraniaeth Jehofa yn llawer pwysicach na chyfiawnhau dyn. Cafodd cyfeillion ffals Job hefyd eu ceryddu’n llym gan Elihu.

Yna, fe siaradodd Jehofa Dduw â Job a rhoi cyngor iddo. Tynnodd sylw Job at ryfeddodau’r greadigaeth i ddangos pa mor fach yw dyn o’i gymharu â mawredd Duw. Fe syrthiodd Job ar ei fai. Ac yntau “mor dosturiol a thrugarog,” fe wnaeth Jehofa adfer iechyd Job, a rhoi iddo ddwywaith gymaint ei gyfoeth gynt, yn ogystal â’i fendithio gyda deg o blant. (Iago 5:11) Roedd Satan wedi honni na fyddai neb ar y ddaear yn aros yn ffyddlon i Dduw dan brawf, ond roedd ffydd Job yn profi bod Satan yn anghywir.

​—Yn seiliedig ar lyfr Job.