Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 3

Dynolryw yn Goroesi’r Dilyw

Dynolryw yn Goroesi’r Dilyw

Duw yn difa byd llawn drygioni ond yn achub Noa a’i deulu

WRTH i’r boblogaeth dyfu, lledaenodd bechod a drygioni drwy’r ddaear. Enoch oedd unig broffwyd Duw bryd hynny a rhybuddiodd y byddai Duw yn difa pobl ddrwg yn y pen draw. Ond eto, aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth. Gwrthryfelodd rhai o’r angylion yn erbyn Jehofa gan adael eu lle yn y nefoedd a dod i’r ddaear fel dynion i gymryd merched yn wragedd. Roedd plant y priodasau annaturiol hyn yn gewri anarferol o gryf. Cafodd y bwlis hyn eu galw’n Neffilim ac aeth trais yn rhemp. Cafodd Duw ei frifo’n arw o weld ei greadigaeth yn cael ei difetha.

Wedi i Enoch farw, roedd un dyn yn sefyll allan yn y byd drwg hwnnw. Ei enw oedd Noa. Roedd ef a’i deulu yn ceisio plesio Duw. Pan benderfynodd Duw ddinistrio pobl ddrygionus y byd, roedd ef eisiau amddiffyn Noa a’r anifeiliaid. Dywedodd Duw wrtho am adeiladu arch, sef llong fawr hirsgwar. Yn yr arch, fe fyddai Noa a’i deulu, ynghyd ag amryw rywogaethau o anifeiliaid, yn cael eu cadw’n ddiogel. Roedd Noa yn ufudd i Dduw. Yn ystod y degawdau y bu Noa yn adeiladu’r arch, roedd hefyd yn ‘bregethwr cyfiawnder.’ (2 Pedr 2:5) Rhybuddiodd Noa y byddai’r Dilyw yn dod, ond wnaeth neb wrando arno. Daeth hi’n amser i Noa a’i deulu fynd i mewn i’r arch gyda’r anifeiliaid. Ar ôl hynny, fe gaeodd Duw ddrws yr arch a dechreuodd fwrw glaw.

Roedd hi’n tywallt y glaw am 40 diwrnod a 40 nos nes bod y ddaear i gyd dan ddŵr. Roedd y drygionus wedi mynd. Fisoedd yn ddiweddarach, wrth i’r dŵr gilio, daeth yr arch i orffwys ar ben mynydd. Aeth blwyddyn gron heibio cyn i Noa a’i deulu fedru dod allan o’r arch. Er mwyn diolch i Jehofa, fe roddodd Noa offrwm iddo. Fe wnaeth Duw ymateb drwy addo i Noa a’i deulu na fyddai byth eto’n defnyddio dilyw i ddifa popeth byw ar wyneb y ddaear. Roedd yr enfys yn warant weledol o addewid Duw.

Wedi’r dilyw, fe roddodd Duw orchmynion newydd i ddynolryw. Fe roddodd ganiatâd iddyn nhw fwyta cig, ond cawson nhw eu gwahardd rhag bwyta gwaed. Gorchmynnodd Duw i bobl wasgaru ledled y byd, ond roedd rhai yn anufudd. Daeth y bobl at ei gilydd o dan arweiniad Nimrod i adeiladu tŵr uchel yn ninas Babel, neu Fabilon fel y cafodd ei galw’n ddiweddarach. Eu bwriad oedd herio gorchymyn Duw ynglŷn â lledaenu drwy’r byd. Ond rhwystrodd Duw eu cynlluniau drwy gymysgu iaith y bobl a gwneud iddyn nhw siarad gwahanol ieithoedd. Heb fedru deall ei gilydd, fe wnaethon nhw roi’r gorau i’w gwaith ac ymwasgaru.

—Yn seiliedig ar Genesis penodau 6-11; Jwdas 14, 15.