Neidio i'r cynnwys

Pam Nad Ydy Tystion Jehofa yn Dathlu Rhai Gwyliau?

Pam Nad Ydy Tystion Jehofa yn Dathlu Rhai Gwyliau?

 Sut mae Tystion Jehofa yn penderfynu p’un a yw gŵyl yn dderbyniol neu beidio?

 Cyn penderfynu a ddylen nhw ddathlu rhyw ŵyl neu beidio mae Tystion Jehofa yn edrych i’r Beibl am gyngor. Mae rhai gwyliau a dathliadau yn amlwg yn mynd yn erbyn egwyddorion y Beibl. Pan fydd hynny’n wir, fydd Tystion Jehofa ddim yn cymryd rhan ynddyn nhw. Ynglŷn â gwyliau eraill, mae pob Tyst yn gwneud ei benderfyniad ei hun, gan wneud pob ymdrech i “gadw cydwybod lân gerbron Duw a dynion yn wastad.”—Actau 24:16, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

 Dyma rai cwestiynau bydd Tystion Jehofa yn gofyn iddyn nhw eu hunain wrth benderfynu a ddylen nhw ddathlu rhyw ŵyl neu beidio. a

  •   Ydy’r ŵyl wedi ei seilio ar ddysgeidiaeth anysgrythurol?

     Egwyddor o’r Beibl: “Felly mae’r Arglwydd yn dweud, ‘Dewch allan o’u canol nhw a bod yn wahanol.’ ‘Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan’”—2 Corinthiaid 6:15-17.

     Er mwyn cadw ar wahân rhag dysgeidiaethau sy’n ysbrydol aflan, hynny yw, rhai sy’n mynd yn erbyn cyngor y Beibl, dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu gwyliau sy’n cynnwys y nodweddion canlynol.

     Gwyliau sydd â’u gwreiddiau yn y gred o dduwiau eraill neu’r addoliad ohonyn nhw. Dywedodd Iesu: “Addola’r Arglwydd dy Dduw, a’i wasanaethu e’n unig.” (Mathew 4:10) O ddilyn y cyngor hwnnw, dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu’r Nadolig, y Pasg, na Chalan Mai, gan fod gwreiddiau’r gwyliau hyn yn gysylltiedig ag addoli duwiau eraill yn hytrach na Jehofa. Yn ogystal â hyn, dydyn nhw ddim yn cymryd rhan mewn gwyliau fel y canlynol.

    •  Kwanzaa. Mae’r enw Kwanzaa, “yn dod o’r geiriau Swahili matunda ya kwanza, sy’n golygu ‘blaenffrwythau’ ac mae [hyn] yn dangos gwreiddiau’r ŵyl yn y dathliadau cynhaeaf cyntaf i’w cofnodi yn hanes Affrica.” (Encyclopedia of Black Studies) Er nad yw rhai pobl yn meddwl bod Kwanzaa yn ddathliad crefyddol, mae’r Encyclopedia of African Religion yn ei gymharu i ŵyl cynhaeaf Affricanaidd. Yn y dathliad Affricanaidd hwn, roedd pobl yn offrymu i’w duwiau a’u cyndadau er mwyn diolch iddyn nhw. Mae Kwanzaa sydd yn ŵyl Affro-Americanaidd wedi ei seilio ar yr un dathliadau.

      Kwanzaa

    •  Yr Ŵyl Ganol Hydref. Dyma “ŵyl i anrhydeddu duwies y lleuad.” (Holidays, Festivals, and Celebrations of the World Dictionary) Mae’n cynnwys defod sy’n “disgwyl i ferched y tŷ ymgrymu, yr hyn mae’r Tsieineaid yn ei alw’n cow-tow, o flaen y dduwies.”​—Religions of the World​—A Comprehensive Encyclopedia of Beliefs and Practices.

    •  Nauruz (Nowruz). “Mae tarddiadau cynharaf yr ŵyl yn dod o grefydd Soroastriaeth, ac yn un o’r dyddiau mwyaf sanctaidd yng nghalendr hynafol y Soroastriaid. . . . Yn benodol, cafodd Ysbryd Canol Dydd, neu [Rapithwin], a oedd yn cael ei hel dan ddaear gan Ysbryd y Gaeaf yn ystod y misoedd oer, ei groesawu yn ôl gyda dathliadau am hanner dydd ar ddiwrnod Nowruz yn ôl y traddodiad Soroastraidd.”—Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig.

    •  Shab-e Yalda. Mae gan ddathliad heuldro’r gaeaf “gysylltiad pendant ag addoliad Mithra,” duw’r goleuni, yn ôl y llyfr Sufism in the Secret History of Persia. Mae hefyd wedi cael ei awgrymu bod gan yr ŵyl gysylltiad ag addoliad duwiau haul y Rhufeiniaid a’r Groegiaid. b

    •  Diolchgarwch. Yn debyg i Kwanzaa, mae’r ŵyl hon yn tarddu o ddathliadau cynhaeaf hynafol a oedd yn anrhydeddu amryw dduwiau. Dros gyfnod, “cafodd yr hen draddodiadau gwerin eu cymryd drosodd gan yr eglwys Gristnogol.”​—A Great and Godly Adventure—The Pilgrims and the Myth of the First Thanksgiving.

     Gwyliau sydd wedi eu seilio ar ofergoeliaeth neu gredu mewn lwc. Mae’r Beibl yn dweud bod y rhai sy’n “gosod bwrdd i’r duw ‘Ffawd,’” ymhlith y rhai “sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD.” (Eseia 65:11) Felly, dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu’r gwyliau canlynol:

    •  Ivan Kupala. “Yn ôl y gred boblogaidd, mae grymoedd hudol yn cael eu rhyddhau gan natur yn ystod [diwrnod Ivan Kupala] ac os ydych chi’n ddewr neu’n lwcus gallwch chi gael rywfaint o’r pŵer hwn,” meddai’r llyfr The A to Z of Belarus. Yn wreiddiol, roedd yr achlysur yn ŵyl baganaidd oedd yn dathlu heuldro’r haf. Ond, mae’r Encyclopedia of Contemporary Russian Culture, yn dweud “y cafodd ei chyfuno gydag ŵyl yr Eglwys [Gŵyl Ifan, sy’n dathlu genedigaeth Ioan Fedyddiwr] ar ôl i’r Paganiaid dderbyn Cristnogaeth.”

    •  Blwyddyn Newydd y Lleuad (Blwyddyn Newydd y Tsieineaid neu Flwyddyn Newydd y Coreaid). “Ar adeg yma’r flwyddyn yn fwy nag unrhyw amser arall, prif ffocws teuluoedd a ffrindiau yw sicrhau lwc dda, plesio duwiau ac ysbrydion, a dymuno’n dda ar gyfer y flwyddyn newydd.” (Mooncakes and Hungry Ghosts—Festivals of China) Yn yr un modd, mae Blwyddyn Newydd y Coreaid “yn cynnwys addoli hynafiaid, defodau i gael gwared ar ysbrydion drwg a sicrhau lwc dda ar gyfer y Flwyddyn Newydd, a darogan drwy argoelion i ganfod beth fydd yn digwydd yn y Flwyddyn Newydd.”​—Encyclopedia of New Year’s Holidays Worldwide.

      Blwyddyn Newydd y Tsieineaid

     Gwyliau sydd wedi eu seilio ar y syniad bod yr enaid yn anfarwol. Mae’r Beibl yn dweud yn blaen bod yr enaid yn gallu marw. (Eseciel 18:4, Beibl Cysegr-lân) Felly, dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu’r gwyliau canlynol sy’n hyrwyddo’r gred bod yr enaid yn anfarwol:

    •  Gŵyl yr Holl Eneidiau (Gŵyl y Meirw) Yn ôl y New Catholic Encyclopedia, dyma’r diwrnod “i goffáu’r rhai ffyddlon sydd wedi marw.” “Drwy gydol y Canol Oesoedd y gred boblogaidd oedd bod yr eneidiau ym mhurdan yn gallu ymddangos ar y diwrnod hwn i’r rhai oedd wedi gwneud cam â nhw yn ystod eu bywydau, ar ffurf jac y lantarn, gwrachod, llyffantod ac yn y blaen.”

    •  Gŵyl Qingming (Ch’ing Ming) a Gŵyl y Bwganod Llwglyd. Mae’r ddwy ŵyl yma yn cael eu cynnal er mwyn anrhydeddu’r hynafiaid. Yn ôl y llyfr Celebrating Life Customs Around the World​—From Baby Showers to Funerals, yn ystod Ch’ing Ming “mae bwyd, diod ac arian papur yn cael eu llosgi er mwyn sicrhau nad yw’r meirw yn llwgu nac yn sychedu nac yn dlawd.” Mae’r llyfr hefyd yn dweud: “Yn ystod Mis y Bwganod Llwglyd, yn enwedig ar noson y lleuad lawn, [mae’r rhai sy’n gweinyddu’n credu] bod ’na fwy o gysylltiad rhwng y meirw a’r byw nag ar unrhyw noson arall, ac felly mae’n bwysig i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gwneud heddwch â’r meirw, yn ogystal ag anrhydeddu’r hynafiaid.”

    •  Chuseok. Mae’r ŵyl hon, meddai The Korean Tradition of Religion, Society, and Ethics, yn cynnwys “offrymu bwyd a gwin i eneidiau’r meirw.” Mae’r offrymau yn adlewyrchu’r “gred ym modolaeth yr enaid anfarwol ar ôl marwolaeth y corff.”

     Gwyliau sy’n gysylltiedig â’r ocwlt. Mae’r Beibl yn dweud: “Ddylai neb ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio, swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda’r ocwlt na cheisio siarad â’r meirw. Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” (Deuteronomium 18:10-12) I gadw’n glir o’r ocwlt​—gan gynnwys astroleg (math o ddarogan y dyfodol)​—dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu Calan Gaeaf (Halowîn) na’r gwyliau canlynol:

    •  Blwyddyn Newydd Sinhalaidd a Tamil. “Mae’r defodau traddodiadol sy’n gysylltiedig â’r achlysur hwn . . . yn cynnwys gwneud rhai gweithgareddau ar amseroedd mae astrolegwyr wedi eu penodi fel adegau lwcus.”—Encyclopedia of Sri Lanka.

    •  Songkran. Mae enw yr ŵyl Asiaidd hon “yn tarddu o air Sansgrit . . . sy’n golygu ‘symudiad’ neu ‘newid,’ ac [mae’r ŵyl] yn nodi symudiad yr haul i mewn i glwstwr o sêr a elwir yr Hwrdd yn y sidydd.”—Food, Feasts, and Faith​—An Encyclopedia of Food Culture in World Religions.

     Arferion sy’n gysylltiedig ag addoliad o dan Gyfraith Moses a ddaeth i ben ar ôl aberth Iesu. Mae’r Beibl yn dweud: “Crist yw diwedd y Gyfraith,” (Rhufeiniaid 10:4, BCND) Mae Cristnogion yn dal i elwa ar egwyddorion Cyfraith Moses a roddwyd i’r Israeliaid gynt. Ond dydyn nhw ddim yn dathlu ei gwyliau, yn enwedig y rhai sy’n rhagfynegi dyfodiad y Meseia gan fod Cristion yn credu ei fod eisoes wedi dod. Roedd y pethau hynny’n “cysgodion gwan o beth oedd i ddod,” meddai’r Beibl, “ond yn y Meseia y dewch chi o hyd i’r peth go iawn.” (Colosiaid 2:17) Oherwydd hyn, a gan fod rhai gwyliau yn cynnwys arferion anysgrythurol, mae’r gwyliau canlynol ymhlith y rhai nad ydy Tystion Jehofa yn eu dathlu:

    •  Chanwca (Gŵyl y Cysegriad). Mae’r ŵyl hon yn coffáu ail-gysegriad y deml Iddewig yn Jerwsalem. Ond mae’r Beibl yn dweud bod Iesu wedi cael ei benodi yn Archoffeiriad dros “babell [neu, deml] go iawn, sef yr un berffaith na chafodd ei gwneud gan bobl ac sydd ddim yn perthyn i’r byd hwn.” (Hebreaid 9:11) I Gristnogion, gwnaeth y deml ysbrydol honno gymryd lle’r deml faterol yn Jerwsalem.

    •  Rosh Hashana. Dyma ddiwrnod cyntaf y flwyddyn Iddewig. Yn y gorffennol, cafodd offrymau arbennig eu haberthu i Dduw yn ystod yr ŵyl hon. (Numeri 29:1-6) Ond, gwnaeth dyfodiad Iesu Grist fel y Meseia, “stopio’r aberthau a’r offrymau,” a’u dirymu yng ngolwg Duw.​—Daniel 9:26, 27.

  •   Ydy’r ŵyl yn hyrwyddo addoliad rhyng-grefyddol?

     Egwyddor o’r Beibl: “Beth sydd gan rywun sy’n credu a rhywun sydd ddim yn credu yn gyffredin? Ydy’n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw?”—2 Corinthiaid 6:15-17.

     Er bod Tystion Jehofa yn ceisio byw yn heddychlon gyda’u cymdogion ac yn parchu hawl pob un i ddewis beth i’w gredu, maen nhw’n osgoi dathliadau sy’n hyrwyddo addoliad gyda phobl o grefyddau eraill yn y ffyrdd canlynol.

     Gwyliau sy’n dathlu personoliaethau crefyddol neu ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo addoliad ar y cyd gyda phobl o wahanol ddaliadau crefyddol. Pan wnaeth Duw arwain ei bobl i wlad newydd lle roedd gan y trigolion grefyddau eraill, dywedodd wrthyn nhw: “Rhaid i chi beidio gwneud cytundeb gwleidyddol gyda nhw, na chael dim i’w wneud â’i duwiau nhw. . . . Bydd hi ar ben arnoch chi os gwnewch chi ddechrau addoli eu duwiau nhw.” (Exodus 23:32, 33) Felly dydy Tystion Jehofa ddim yn cymryd rhan mewn gwyliau fel y canlynol.

    •  Loy Krathong. Yn ystod yr ŵyl hon yng Ngwlad Thai, “mae pobl yn gwneud powlenni allan o ddail, yn ychwanegu canhwyllau neu ffyn arogldarth ac wedyn yn lawnsio’r powlenni ar wyneb y dŵr. Maen nhw’n dweud bod y cychod bach hyn yn cario lwc ddrwg i ffwrdd. Mae’r ŵyl yn coffáu ôl troed sanctaidd a gadawyd ar ôl gan Bwdha.”—Encyclopedia of Buddhism.

    •  Diwrnod Edifarhau Cenedlaethol. Mae’r rhai sy’n dathlu’r achlysur hwn yn “cytuno â dysgeidiaethau sylfaenol y ffydd Gristnogol,” meddai swyddog y llywodraeth yn The National, un o bapurau newydd Papwa Gini Newydd. Dywedodd ef fod y diwrnod “yn help i hyrwyddo egwyddorion Cristnogol yn y wlad.”

    •  Vesak. “Dyma’r ŵyl fwyaf sanctaidd i Fwdhyddion. Mae’n dathlu genedigaeth Bwdha, ei oleuedigaeth, a’i farwolaeth, neu gyrraedd y cyflwr o Nirfana.”—Holidays, Festivals, and Celebrations of the World Dictionary.

      Vesak

     Dathliadau sydd wedi eu seilio ar draddodiadau crefyddol heb sail ysgrythurol. Dywedodd Iesu wrth arweinwyr crefyddol: “Er mwyn cadw’ch traddodiad dych chi’n osgoi gwneud beth mae Duw’n ei ddweud.” Dywedodd hefyd bod eu haddoliad yn ofer gan mai “mân-reolau dynol ydy’r cwbl maen nhw’n ei ddysgu.” (Mathew 15:6, 9) Gan eu bod nhw’n cymryd y rhybudd hwn o ddifri, mae ’na lawer o achlysuron crefyddol mae Tystion Jehofa yn dewis peidio â’u dathlu.

    •  Ystwyll (Diwrnod y Tri Brenin, Timkat, neu Los Reyes Magos) Mae’r rhai sy’n dathlu yn coffáu un ai ymweliad yr astrolegwyr â Iesu neu fedydd Iesu. Gwnaeth yr ŵyl “Gristioneiddio rhai gwyliau paganaidd y gwanwyn a oedd yn anrhydeddu duwiau ffrydiau, afonydd a nentydd.” (The Christmas Encyclopedia) Mae gŵyl debyg o’r enw Timkat “wedi ei gwreiddio’n ddwfn mewn traddodiad.”—Encyclopedia of Society and Culture in the Ancient World.

    •  Gŵyl Dyrchafiad Mair. Mae’r ŵyl hon yn dathlu’r gred fod mam Iesu wedi mynd i’r nef gyda’i chorff ffisegol. Yn ôl Religion and Society​—Encyclopedia of Fundamentalism, “roedd y gred hon yn anhysbys i’r eglwys fore a does dim sôn amdani yn y Beibl.”

    •  Gŵyl Ymddwyn Mair. “Nid yw’r Ymddwyn Difrycheulyd neu’r Beichiogi Dihalog i’w gael yn yr Ysgrythurau . . . dysgeidiaeth yr Eglwys ydyw.”​—New Catholic Encyclopedia.

    •  Y Grawys. Yn ôl y New Catholic Encyclopedia, cafodd y cyfnod o benyd ac ymprydio ei sefydlu “yn y bedwaredd ganrif,” dros 200 o flynyddoedd ar ôl cwblhau’r Beibl. Ynghylch diwrnod cyntaf y Grawys, mae’r gwyddoniadur yn dweud: “Mae’r traddodiad o’r ffyddloniaid yn derbyn croes ludw ar eu talcennau gan yr offeiriad ar ddydd Mercher y Lludw wedi bod yn ddefod swyddogol ers Synod Benevento ym 1091.”

    •  Meskel (neu, Maskal) Dyma enw Gŵyl Caffael y Groes yn Ethiopia. Mae’n dathlu “cael hyd i’r Wir Groes (sef y groes cafodd Iesu ei groeshoelio arni), drwy gynnau coelcerthi a dawnsio o’u cwmpas,” meddai’r Encyclopedia of Society and Culture in the Medieval World. Sut bynnag, dydy Tystion Jehofa ddim yn defnyddio’r groes wrth addoli.

  •   Ydy’r ŵyl yn dyrchafu bod dynol, cyfundrefn, neu symbol cenedlaethol?

     Egwyddor o’r Beibl: “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Melltith ar y rhai sy’n trystio pobl feidrol a chryfder dynol, a’r galon wedi troi cefn arna i.”—Jeremeia 17:5.

     Er eu bod nhw’n dangos gwerthfawrogiad tuag at eu cyd-ddyn a hyd yn oed yn gweddïo drostyn nhw, dydy Tystion Jehofa ddim yn cymryd rhan yn y math o achlysuron a dathliadau sy’n dilyn:

     Gwyliau sy’n anrhydeddu rheolwr neu berson pwysig arall. Mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch rhoi’ch ffydd mewn pobl sydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau! Achos pa werth sydd iddyn nhw?” (Eseia 2:​22) Felly dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu pen-blwydd brenin neu frenhines, er enghraifft.

     Dathliadau sy’n ymwneud â baner cenedl. Dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu Diwrnod y Faner. Pam felly? Oherwydd mae’r Beibl yn dweud: “Blant, ymgadwch rhag eilunod.” (1 Ioan 5:21, BCND) Heddiw, dydy rhai pobl ddim yn ystyried y faner fel eilun—gwrthrych addoliad—ond ysgrifennodd yr hanesydd Carlton J. H Hayes: “Prif symbol ffydd sy’n perthyn i genedlaetholdeb, a gwrthrych pennaf ei addoliad yw’r faner.”

     Gwyliau neu ddathliadau sy’n dyrchafu seintiau. Beth ddigwyddodd pan ymgrymodd dyn duwiol o flaen yr apostol Pedr? Mae’r Beibl yn dweud: “Dyma Pedr yn gwneud iddo godi: ‘Saf ar dy draed,’ meddai wrtho, ‘dyn cyffredin ydw i fel ti.’” (Actau 10:25, 26) Gan nad oedd Pedr nag unrhyw un o’r apostolion yn derbyn anrhydedd arbennig, dydy Tystion Jehofa ddim yn cymryd rhan mewn gwyliau i anrhydeddu’r rhai sy’n cael eu hystyried fel seintiau, fel y dathliadau canlynol:

    •  Gŵyl yr Holl Saint. “Gŵyl i anrhydeddu pob un o’r saint . . . Nid oes sicrwydd o le mae’r ŵyl yn tarddu.”—New Catholic Encyclopedia.

    •  Gŵyl Mair o Guadalupe. Mae’r ŵyl hon yn anrhydeddu “nawddsant Mecsico,” sant y mae rhai yn credu yw Mair, mam Iesu. Y gred yw ei bod hi wedi ymddangos yn wyrthiol o flaen tyddynnwr ym 1531.—The Greenwood Encyclopedia of Latino Literature.

      Gŵyl Mair o Guadalupe

    •  Diwrnod Nawddsant. Yng nghyd-destun unigolion, “diwrnod nawddsant yw diwrnod gŵyl y sant mae’r plentyn wedi cael ei enwi ar ei ôl, un ai yn ystod bedydd neu adeg ei gonffyrmasiwn,” meddai’r llyfr Celebrating Life Customs Around the World—From Baby Showers to Funerals. Mae’n ychwanegu bod ’na “elfen grefyddol gref i’r diwrnod.”

     Dathliadau sy’n perthyn i fudiadau gwleidyddol neu gymdeithasol. “Mae’n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am loches na trystio pobl feidrol!” (Salm 118:​8, 9) Er mwyn osgoi rhoi’r argraff eu bod yn ymddiried mewn pobl i ddatrys problemau’r byd yn hytrach na Duw, fydd Tystion Jehofa ddim yn cymryd rhan mewn dathliadau Diwrnod Ieuenctid, neu Ddiwrnod y Menywod sy’n cefnogi ymgyrchoedd gwleidyddol neu gymdeithasol. Am yr un rheswm, fyddan nhw ddim yn ymuno â dathliadau Diwrnod Rhyddfreinio’r Caethweision neu ddathliadau tebyg. Yn hytrach, byddan nhw’n edrych i Deyrnas Dduw i ddatrys problemau hiliaeth ac anghydraddoldeb.—Rhufeiniaid 2:11; 8:21.

  •   Ydy’r ŵyl yn dyrchafu un genedl neu grŵp ethnig yn uwch nag eraill?

     Egwyddor o’r Beibl: Dydy “Duw ddim yn dangos ffafriaeth! Mae’n derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.”—Actau 10:34, 35.

     Er bod llawer o Dystion Jehofa yn hoff o wlad eu mebyd, maen nhw’n osgoi dathliadau sy’n dyrchafu cenhedloedd neu grwpiau ethnig mewn ffyrdd sy’n cael eu disgrifio yn y rhestr ganlynol.

     Dathliadau sy’n anrhydeddu’r lluoedd arfog. Yn hytrach nag annog rhyfel, dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi!” (Mathew 5:44) Felly, dydy Tystion Jehofa ddim yn cymryd rhan mewn dathliadau sy’n anrhydeddu milwyr, gan gynnwys y gwyliau sy’n dilyn:

    •  Diwrnod Anzac. “Mae Anzac yn sefyll am Luoedd Arfog Awstralia a Seland Newydd,” ac “mae Diwrnod Anzac wedi troi’n raddol i fod yn ddiwrnod i gofio’r rhai a laddwyd yn y rhyfel.”—Historical Dictionary of Australia.

    •  Diwrnod yr Hen Filwyr (Dydd y Cofio, Sul y Cofio, neu Ddiwrnod Coffa). Mae’r gwyliau hyn yn anrhydeddu “hen filwyr y lluoedd arfog a’r rhai a laddwyd yn rhyfeloedd y wlad.”—Encyclopædia Britannica.

     Dathliadau i gofio hanes neu annibyniaeth cenedl. Wrth siarad am ei ddilynwyr, dywedodd Iesu: “Dŷn nhw ddim yn perthyn i’r byd fwy na dw i’n perthyn i’r byd.” (Ioan 17:16) Er eu bod nhw’n hapus i ddysgu am hanes unrhyw genedl, mae Tystion Jehofa yn dewis peidio â chymryd rhan mewn digwyddiadau fel y canlynol:

    •  Diwrnod Awstralia. Yn ôl y Worldmark Encyclopedia of Cultures and Daily Life, mae’r ŵyl yn dathlu’r “diwrnod ym 1788 pan gododd y milwyr Seisnig eu baner gan ddatgan bod Awstralia yn wladfa newydd.”

    •  Noson Guto Ffowc. Dyma “ddiwrnod o ddathlu cenedlaethol a choffáu cynllwyn aflwyddiannus Guto Ffowc a chefnogwyr Catholig eraill i chwythu i fyny’r Brenin Iago I a Senedd [Lloegr] ym 1605.”—A Dictionary of English Folklore.

    •  Diwrnod Annibyniaeth. Mewn sawl gwlad, mae ’na “ddiwrnod wedi’i neilltuo ar gyfer dathliad blynyddol cyhoeddus i goffáu annibyniaeth oddi wrth wlad arall.”—Merriam-Webster’s Unabridged Dictionary.

  •   Ydy’r ŵyl yn cael ei nodweddu gan ymddygiad afreolus neu anweddus?

     Egwyddor o’r Beibl: “Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae’r paganiaid yn mwynhau ei wneud—byw’n anfoesol yn rhywiol a gadael i’r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy’n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau.”​—1 Pedr 4:3.

     Yn unol â’r egwyddor honno, mae Tystion Jehofa yn osgoi dathliadau lle mae pobl yn meddwi a chael partïon gwyllt. Mae Tystion Jehofa yn mwynhau dod at ei gilydd gyda’u ffrindiau, weithiau byddan nhw’n dewis peidio ag yfed alcohol a thro arall byddan nhw’n mwynhau ambell wydraid o ddiod feddwol, cyn belled â bod hynny’n gymedrol. Maen nhw’n gwneud eu gorau i ddilyn cyngor y Beibl: “Wrth fwyta ac yfed, neu wneud unrhyw beth arall wir, dylech chi anrhydeddu Duw.”​—1 Corinthiaid 10:31.

     Felly, dydy Tystion Jehofa ddim yn cymryd rhan mewn carnifalau neu wyliau tebyg sy’n hyrwyddo ymddygiad anfoesol sydd wedi ei gondemnio yn y Beibl. Mae hyn yn cynnwys yr ŵyl Iddewig Pwrim. Er bod Pwrim wedi coffáu gwaredigaeth yr Iddewon yn y bumed ganrif COG, bellach gelwir y dathliad yn Ŵyl y Gyfeddach. Yn ôl y llyfr Essential Judaism gall yr ŵyl “gael ei disgrifio’n fras, ond yn hollol deg, fel fersiwn Iddewig o’r Mardi Gras neu garnifal.” Ac i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhialtwch, “mae’n cynnwys gwisgo i fyny mewn costiwmau (yn aml bydd dynion mewn gwisg merched), bydd pobl yn cadw reiat, yn yfed gormod, ac yn gwneud llawer o dwrw.”

 Ydy Tystion Jehofa, sydd ddim yn dathlu rhai gwyliau neilltuol, yn dal i garu eu teuluoedd?

 Ydyn, maen nhw. Mae’r Beibl yn dysgu pobl i garu a pharchu’r teulu i gyd, beth bynnag yw ei ffydd. (1 Pedr 3:1, 2, 7) Wrth gwrs, pan fydd un o Dystion Jehofa yn stopio cymryd rhan mewn rhai dathliadau, gall rhai o’i berthnasau ef neu hi ypsetio, brifo, neu hyd yn oed teimlo bod nhw wedi cael eu bradychu. Felly, bydd llawer o Dystion Jehofa yn cymryd camau i sicrhau eu perthnasau eu bod nhw’n eu caru, i esbonio gyda thact y rhesymau dros eu penderfyniadau, a gwneud yn siŵr bod nhw’n ymweld â’u perthnasau ar adegau eraill.

 Ydy Tystion Jehofa yn mynnu nad ydy pobl eraill yn dathlu rhai gwyliau?

 Nac ydyn. Maen nhw’n credu bod rhaid i bob un benderfynu dros ei hun. (Josua 24:15) Mae Tystion Jehofa yn dangos “parch at bawb,” ni waeth beth fydd eu daliadau crefyddol.—1 Pedr 2:17.

a Dydy’r erthygl hon ddim yn rhestru pob gŵyl mae Tystion Jehofa yn dewis peidio â dathlu, nac yn sôn am bob egwyddor Feiblaidd a all fod yn berthnasol.

b Mithra, Mithraism, Christmas Day & Yalda, gan K. E. Eduljee, tudalennau 31-33.